Barwn Penrhyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Barwn Penrhyn (neu fel rheol ar lafar Arglwydd Penrhyn) yw'r teitl a ddelir gan deulu Douglas-Pennant, oedd yn dirfeddiannwyr o bwysigrwydd mawr yng ngogledd-orllewin Cymru yn y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif. Roeddynt yn fwyaf adnabyddus fel perchenogion Chwarel y Penrhyn ger Bethesda, ar un adeg y chwarel fwyaf yn y byd. Roedd cartref y teulu yng Nghastell Penrhyn ger Llandygai.

Crewyd y teitl ddwywaith, y tro cyntaf fel rhan o Bendefigaeth Iwerddon i Richard Pennant, a oedd gynt yn Aelod Seneddol dros Petersfield a Lerpwl. Daeth y farwniaeth yma i ben pan fu ef farw yn 1808.

Ail-grewyd y farwniaeth yn ran o Bendefigaeth y Deyrnas Unedig yn 1866, pan wnaed Edward Gordon Douglas-Pennant yn Farwn Penrhyn o Landygai. Cynyrchiolodd Gaernarfon yn Nhŷ'r Cyffredin (DU) gynt, a gwasanaethodd fel Arglwydd Is-gapten Sir Gaernarfon. Rhoddwyd iddo ystad ei dad yng nhyfraith (cefnder ac etifeddwr y barwn o'r greadigaeth gyntaf yn 1783) ar yr amod ei fod yn cymryd cyfenw ei wraig cyn iddi briodi, sef Pennant. Roedd yr Arglwydd Penrhyn yn frawd ieuengaf i George Sholto Douglas, 17fed Iarll Morton. Priododd Juliana Isabella Mary Pennant (bu farw 1842) yn 1833, merch hynaf, a chyd-etifwddwraig George Hay Dawkins Pennant o Gastell Penrhyn, a bu farw yn 1841, cymerodd y cyfenw Pennant odan drwydded brenhinol.

Golynwyd Arglwydd Penrhyn gan ei fab hynaf, yr ail-farwn. Cynyrchiolodd ef Gaernarfon yn y Senedd fel aelod Ceidwadol. Ar ei farwolaeth, fe basiodd y teitl ymlaen i'w fab, y trydydd Barwn. Roedd ef yn ei dro yn aelod seneddol Ceidwadol dros De Northampton. Golynwyd gan ei fab y pedwrydd Barwn, a oedd yn Arglwydd Raglaw Sir Gaernarfon o 1933 hyd 1941. Ar ei farwolaeth yn 1949, fe ddaeth llinach mab hynaf y Barwn cyntaf i ben. Golynwyd gan fab ei gefnder, y pumed Barwn; mab i'r Anrhydeddus Archibald Charles Henry Douglas-Pennant, ail fab y Barwn cyntaf. Rodd Arglwydd Penrhyn yn 101 mlwydd a 74 diwrnod oed pan fu farw ar 3 Chwefror 1967, ef oedd yr arglwydd etifeddol hynaf erioed. Ni dorrwyd y record hwn hyd marwolaeth 7fed Is-iarll St Vincent ym mis Medi 2006.

Golynwyd ef gan ei fab, y chweched Barwn. Deilwyd y teitl gan nai'r chweched Barwn ers 2007. Fel disgynnydd o'r 14ydd Iarll Morton, roedd hefyd yn relyw i'r bendefigaeth hod a'r is-deitl Arglwyddiaeth Dalkeith.

Roedd Muriel Fitzroy, Is-Iarlles 1af Daventry, gwraig Edward Fitzroy, Llefarydd Tŷ'r Cyffredin, yn chwaer i bumed Barwn Penrhyn. Mae'r teulu Douglas, o'r ail greadigaeth, o'r un llinach ac Ardalyddesau Queensbury (nodir ymddangosiad yr enw canol, Sholto yn y ddau deulu), ac hefyd yn perthyn i Ieirll Home.

Y greadigaeth gyntaf (1783)[golygu]

Yr ail greadigaeth (1866)[golygu]

Mae'n debygol mai'r etifeddwr nesaf fydd mab y deilydd presenol, sef Edward Douglas-Pennant (ganwyd 1966)

References[golygu]