George Sholto Gordon Douglas-Pennant, 2il Farwn Penrhyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

George Sholto Gordon Douglas-Pennant (30 Medi 1836 - 10 Mawrth 1907) oedd ail Farwn Penrhyn o'r ail greadigaeth. Roedd yn berchen ystad enfawr yng ngogledd-orllewin Cymru, ond mae'n fwyaf adnabyddus fel perchennog Chwarel y Penrhyn adeg y Streic Fawr rhwng 1900 a 1903.

Roedd ei dad wedi bod yn Aelod Seneddol Toriaidd dros Sir Gaernarfon am chwarter canrif pan wnaed ef yn Farwn Penrhyn yn 1866. Gan ei fod ef yn awr yn symud i Dŷ'r Arglwyddi, y bwriad oedd i'w fab etifeddu ei sedd a'i safle yn y sir. Fodd bynnag yn etholiad 1868, curwyd ef yn annisgwyl gan yr ymgeisydd Rhyddfrydol, Love Jones-Parry o Fadryn. Er iddo ennill y sedd yn ôl yn 1874, credir fod hyn wedi ei chwerwi yn erbyn y chwarelwyr, oedd a thuedd gref i fod yn Rhyddfrydwyr.

Etifeddodd y teitl a'r ystad ar farwolaeth ei dad Edward Gordon Douglas-Pennant, Barwn 1af Penrhyn yn 1886. Apwyntiodd E.A. Young yn rheolwr Chwarel y Penrhyn yn fuan wedyn, a buan y gwelwyd fod y dull o reoli wedi newid. Dilynwyd streic (neu'n hytrach gloi allan) o unarddeg mis yn 1896-7 gan y Streic Fawr o 1900 hyd 1903. Yr oedd y ddwy ochr yn benderfynol o beidio ildio, ond yn y diwedd bu raid i'r chwarelwyr ddychwelyd i'r gwaith ar delerau Penrhyn. Ystyrir yr anghydfod yn ddechrau dirywiad diwydiant llechi Cymru.

Ystyrid Barwn Penrhyn yn feistr tir blaengar a chymwynasgar i denantiaid oedd yn barod i ufuddhau iddo, ond yr oedd yn hollol ddigymrodedd ynglŷn â'i hawl i redeg ei chwarel yn ei ffordd ei hun a delio a'i weithwyr yn unigol yn hytrach na thrwy'r undeb.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1953).
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Edward Douglas-Pennant
Aelod Seneddol dros Sir Gaernarfon
18661868
Olynydd:
Love Jones-Parry
Rhagflaenydd:
Love Jones-Parry
Aelod Seneddol dros Sir Gaernarfon
18741880
Olynydd:
Charles James Watkin Williams