Brogyntyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Plasdy ac ystad o darddiad Cymreig ym mhlwyf Selatyn ger Croesoswallt, Swydd Amwythig, Lloegr yw Brogyntyn. Er iddo ddechrau fel ystad fechan ar ddiwedd yr Oesoedd Canol, tyfodd i fod yn un o ystadau mwyaf gogledd Cymru (er ei fod yn Lloegr roedd yr ardal o gwmpas Brogyntyn yn Gymreig iawn am ganrifoedd).

Hanes[golygu]

Portico Neuadd Brogyntyn.

Sefydlwyd castell Cymreig ar dir Brogyntyn yn y 12fed ganrif, efallai gan Owain Brogyntyn, un o dywysogion Teyrnas Powys. Castell mwnt a beili ydyw: dim ond ei olion sy'n goroesi heddiw, ym Mharc Brogyntyn.

Trwy gyd-briodas ymledodd cysylltiadau'r teulu ac ychwanegwyd i gyfoeth yr ystad. Tro mawr yn hanes yr ystad oedd y briodas rhwng Syr William Maurice, aer Clenennau, gydag aeres Brogyntyn yn yr 16eg ganrif. Roedd teulu'r llenor Ellis Wynne yn perthyn iddi yn y 17eg ganrif. Ar ddechrau'r 19eg ganrif, trwy briodas eto, sefydlwyd llinach Arglwydd Harlech.

Dros y canrifoedd, casglwyd llyfrgell ym Mrogyntyn a oedd yn cynnwys nifer o lyfrau prin a chasgliad pwysig o lawysgrifau Cymreig. Daeth yr rhain, ynghyd â nifer fawr o bapurau a chofnodion yn ymwneud â Chymru, i feddiant Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn yr 20fed ganrif lle y'u cedwir heddiw fel 'Llawysgrifau Brogyntyn'.

Gweler hefyd[golygu]

Darllen pellach[golygu]

Ceir cyfres o erthyglau gan E. D. Jones ar Lawysgrifau Brogyntyn a'u cefndir yng Nghylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (cyfrolau v-viii, 1948-53).

Dolenni allanol[golygu]