Castell mwnt a beili

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sycharth: y mwnt a beili enwocaf yng Nghymru.
Glyndyfrdwy: un o domenni Owain Glyndŵr

Castell wedi'i wneud allan o domen o bridd gydag amddiffynfa bren arno yw castell mwnt a beili (hefyd castell tomen a beili). Mae'n ddull o adeiladu amddiffynfa a ddaeth i wledydd Prydain yn ail hanner yr 11eg ganrif gyda dyfodiad y Normaniaid. Ceir rhai cannoedd o enghreifftiau o gestyll mwnt a beili yng Nghymru, Lloegr, de'r Alban a rhannau o Iwerddon. Maen nhw'n arbennig o niferus ar hyd y Gororau a'r Mers, sef cadarnle'r barwniaid Normanaidd rhwng Cymru a Lloegr. Tyfodd rhai o'r caerau hyn i fod yn gestyll cerrig mawr tra arhosai eraill yn domennydd pridd ar ôl cael eu defnyddio dros dro. Yng Nghymru mabwysiadwyd y dull newydd gan rai o'r tywysogion Cymreig am gyfnod. Yr enw Cymraeg Canol am y math yma o gastell oedd tomen ('tump' ar y Gororau).

Adeiladwaith[golygu]

Prif bwrpas cestyll mwnt a beili oedd cysgodi grwpiau bychain o farchogion a saethwyr (yr uned filwrol Normanaidd arferol) yn ystod y Goresgyniad Normanaidd. Roedd angen amddiffynfa hawdd i'w chodi. Fel rheol mae'r castell yn domen bridd (mwnt, mount) gron neu hirgron â phen gwastad gyda ffos o'i chwmpas. Weithiau byddai'r adeiladwyr yn manteisio ar nodwedd naturiol fel codiad tir. Yn gysylltiedig â'r mwnt roedd yn arferol - gydag ychydig iawn o eithriadau - godi amddiffynfa bren syml, palisâd o bren yn amgae darn o dir uchel. Dyma'r beili. Byddai hyn yn cael ei godi naill ai ar ben y mwnt neu yn ei chyffwrdd. O fewn y tir o fewn y palisâd roedd yr amddiffynwyr yn codi tŵr pren syml; byddai'r dynion yn cysgodi yn y tŵr a'r meirch yn y tir o fewn y palisâd.

Rhai enghreifftiau sydd i'w gweld heddiw[golygu]

Cymru[golygu]

Am restr cyflawn o holl gestyll mwnt a beili Cymru, gweler yma.