Owen Morgan Edwards

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Owen Morgan Edwards
O.M.Edwards 01b.JPG
Darlun pin ac inc o O.M. Edwards, Young Wales, 1896 (manylyn)
Ganwyd 26 Rhagfyr 1858
Llanuwchllyn, Gwynedd
Bu farw 15 Mai 1920
Cenedligrwydd Cymro
Yn enwog am Arweinydd diwylliannol, llenor, addysgwr
Addysg Aberystwyth a Rhydychen
Galwedigaeth Cyhoeddwr, llenor, Arolygydd Ysgol, Aelod Seneddol
Gweithgar 1880au - 1910au
Plaid wleidyddol Plaid Ryddfrydol (DU)
Priod Ellen Elizabeth Davies
Plant Ifan ab Owen Edwards, Haf

Arolygwr ysgolion, llenor a chyhoeddwr cylchgronnau i oedolion ac i blant oedd Owen Morgan Edwards (26 Rhagfyr 185815 Mai 1920).

Bywgraffiad[golygu]

Ganwyd Edwards ar 26 Rhagfyr 1858 yng Nghoed-y-pry, Llanuwchllyn,[1] yn fab i Owen Edwards, ffermwr, ac Elizabeth.[2] Cafodd ei addysg yn ysgol y plwyf cyn mynychu Ysgol Ramadeg y Bala, ac yna Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Oddi yno aeth i Glasgow am gyfnod ac yna i Goleg Balliol, Rhydychen lle 'roedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas Dafydd ap Gwilym. Graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Hanes Modern.

Cafodd yrfa hir fel golygydd cylchgronau. Dechreuodd fel cyd-olygydd Cymru Fydd (18891891), cylchgrawn y mudiad gwleidyddol o'r un enw (gweler Cymru Fydd). Yn 1891 dechreuodd olygu a chyhoeddi y cylchgrawn Cymru (1891–1920) yn fisol, a adwaenir yn aml fel y "Cymru Coch", oherwydd lliw y clawr. Yn yr un flwyddyn dechreuodd gyhoeddi y cylchgrawn misol i blant Cymru'r Plant; ar ei anterth yn 1900 roedd hwn yn gwerthu tua 40,000 o gopïau y mis, sy'n ei wneud y cyhoeddiad mwyaf poblogaidd erioed yn hanes Cymru.

Roedd yn aelod o'r Blaid Ryddfrydol a daeth yn Aelod Seneddol dros Feirionnydd ym 1899, yn dilyn marwolaeth Thomas Edward Ellis ym mis Ebrill 1899. Ni fwynhaodd fywyd y senedd ac felly ni ymgeisiodd i gael ei ail-ethol ym 1900.

Yn 1907 dewiswyd ef yn brif arolygydd ysgolion Cymru. Ynghyd a'r gwaith hwnnw roedd yn ymroddedig i greu yn ei gyd-Gymry falchter yn eu hanes, ei hiaith a'u diwylliant, ac i'r perwyl hyn fe ysgrifennodd nifer o lyfrau Cymraeg wedi eu hysgrifennu mewn arddull a oedd yn apelio at y darllenydd cyffredin.

Golygodd a chyhoeddodd ddwy gyfres bwysig o glasuron rhyddiaith a barddoniaeth Cymraeg, sef Cyfres y Fil (37 cyfrol) a Llyfrau ab Owen. Cyhoeddodd yn ogystal Cyfres Clasuron Cymru. Cafodd y llyfrau bach deniadol, rhad a safonol hyn ddylanwad mawr ar feddylfryd y Cymry.

Gwnaethpwyd yn Farchog ym 1916 a gwobrwywyd gyda gradd anrhydedd o Brifysgol Cymru ym 1918. Bu farw ei wraig ym 1919, a bu farw yntau yn Llanuwchllyn ym 1920. Aeth ei fab, Ifan ab Owen Edwards ymlaen i sefydlu Urdd Gobaith Cymru. Enwyd Ysgol O M Edwards yn Llanuwchllyn ar ei ôl er mwyn ei anrhydeddu.

Llyfryddiaeth[golygu]

Cerfluniau O. M. Edwards a'i fab Ifan ab Owen Edwards yn Llanuwchllyn ger Y Bala, Gwynedd

Llyfrau O. M. Edwards[golygu]

  • Trem ar Hanes Cymru (1893)
  • Celtic Britain (1893)
  • Clych Adgof (1906)
  • O'r Bala i Geneva (1889)
  • Ystraeon o Hanes Cymru (1894)
  • Hanes Cymru (1895, 1899)
  • Cartrefi Cymru (1896)
  • Tro yn Llydaw (d.d. tua 1900)
  • Wales (1901, yn y gfyres Stories of the Nations)
  • A Short History of Wales (1906)
  • Llyfr Del (1906). I blant.
  • Tro trwy'r Gogledd (1907)
  • Tro i'r De (1907)
  • Hwiangerddi (1911). I blant.
  • Llyfr Nest (1913). I blant.

Astudiaethau[golygu]

  • W.J. Gruffydd, Owen Morgan Edwards, Cyfrol 1, 1858-1883 (Aberystwyth, 1937). Yr unig gyfrol a gyhoeddwyd.
  • Gwilym Arthur Jones, Bywyd a Gwaith Owen Morgan Edwards (1958)
  • R.M. Jones, Llenyddiaeth Gymraeg 1902-1936 (1987). Pennod 7 ac 8 ar lyfrau O. M. Edwards a'u dylanwad.

Teulu[golygu]

Coed-y-pry, Llanuwchllyn oedd cartref O.M. Edwards a'i deulu yn 1871, roedd ei dad yn ffermwr 17 acer ar y pryd.[2] Yn ystod cyfrifiad 1881 roedd yn lletywr yn Meyrick House, Dolgellau, rhestrwyd ei alwedigaeth fel Minister Calvinistic Methodist Body.[3] Erbyn 1891, roedd yn byw adref gyda'i rieni unwaith eto yng Nghoedypry, rhestrwyd ei alwedigaeth fel athro hanes. Roedd ei frodyr, Thomas (melinydd), Edward (myfyriwr athroniaeth) a John M. (myfyriwr diwinyddiaeth) hefyd yn byw gyda hwy.[4] Priododd Ellen Elizabeth Davies yn fuan ar ôl hynny.[5] Roedd Edwards yn byw ym Mryn-yr-aber, Llanuwchllyn yn ystod cyfrifiad 1901, gyda'i wraig, ei fab Evan ab Owen a'i ferch, Haf. Roedd dwy forwyn hefyd yn byw gyda'r teulu. Rhestrwyd ei alwedigaeth fel Fellow of College & Lecturer.[6]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Richard Aldrich, Peter Gordon (1989). Dictionary of British Educationists. Routledge. ISBN 9780713001778URL
  2. 2.0 2.1 Cyfrifiad 1871, Coedypry, Llanuchwllyn. RG 10/5685
  3. Cyfrifiad 1881, Meyrick House, Meyrick Street, Dolgellau. RG 11/5546
  4. Cyfrifiad 1891, Coedypry, Llanuchwllyn. RG 12/4639
  5. Mynegai Cofrestr Priodasau Lloegr a Cymru: Owen Morgan Edwards & Ellen Elizabeth Davies; chwarter cofrestr: Ebrill–Mehefin 1891; Ardal cofrestru: Bala; Cyfrol: 11b; Tudalen; 597.
  6. Cyfrifiad 1901, Glanaber, Llanuchwllyn. RG 13/1520

Dolenni allanol[golygu]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Thomas Edward Ellis
Aelod Seneddol dros Feirionnydd
18991900
Olynydd:
Osmond Williams