Thomas Edward Ellis

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Am y gwleidydd Llafur ac wedyn SDP, gweler Robert Thomas Ellis.
Tom Ellis (ar glawr cofiant O. Llew Owain iddo, 1915)
Y cerflun o Tom Ellis yn Y Bala.

Yr oedd Thomas Edward Ellis, neu Tom Ellis (16 Chwefror 18595 Ebrill 1899) yn wleidydd radicalaidd o Gymro ac un o feddylwyr politicaidd mwyaf gwreiddiol a blaenllaw ei ddydd, a aned yng Nghefnddwysarn ger Y Bala, Meirionnydd (Gwynedd). Ei fab oedd y llenor T. I. Ellis, a ysgrifennodd ei gofiant ar ôl ei farwolaeth.

Cefndir ac addysg[golygu]

Roedd yn fab i Thomas Ellis, ffarmwr o Anghydffurfiwr a ffermai dyddyn yng Nghefnddwysarn, a'i wraig Elizabeth. Cafodd Tom Ellis ei addysg yn Ysgol Ramadeg y Bala, lle daeth yn gyfaill i O. M. Edwards, ac aeth yn ei flaen i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth 1875 ac yna i'r Coleg Newydd, Rhydychen 1879, lle cafodd radd mewn Hanes.

Gyrfa gwleidyddol[golygu]

Yn 1886 cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Feirion. Erbyn 1894 Tom Ellis oedd Prif Chwip y blaid yn San Steffan.

Gweithiai'n ddiwyd dros addysg Gymraeg (yn arbennig yr ymdrech i greu ac ehangu Coleg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor), datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru, Diwygio'r Tir ac Ymreolaeth i Gymru (hunanlywodraeth). Chwaraeodd ran flaenllaw ym mudiad Cymru Fydd.

Ym mis Medi, 1890, gwnaeth araith enwog yn y Bala yn galw am senedd lawn i Gymru. Gyda'i gyfeillion agos D. R. Daniel a W. J. Parry, datblygodd gysyniad newydd o genedligrwydd Cymreig, wedi'i ysbrydoli gan yr alwad cynyddol am ymreolaeth yn Iwerddon. Yn ôl gweledigaeth Ellis byddai hanes Cymru, ei thraddodiadau, diwylliant a'i hiaith a llenyddiaeth, ynghyd â'r sefydliadau cenedlaethol oedd i ddod, yn ffurfio un uned organig gydag ysbyrd y werin yn ei uno. Mewn hyn o beth gwelai ei hun fel olynydd i'r sosialydd cynnar o Gymro Robert Owen o'r Drenewydd.[1]

Trwy gydol ei oes roedd ei iechyd yn fregus. Torrodd ei farwolaeth gynnar a disymwth o deiffoid tra ar wyliau yn yr Aifft yn 1899 yrfa addawol i'w sir a'i wlad. Fe'i claddwyd yng Nghapel Ddwysarn yn ei bentref genedigol.

Roedd yn anwyl iawn gan y werin a mawr fu'r golled ar ei ôl. Roedd pobl yn meddwl bod Cymru wedi colli ei harweinydd disgleiraf. Saif cofgolofn i Twm Ellis yn y Bala, a godwyd yn fuan wedi ei farwolaeth.

Gwaith llenyddol[golygu]

Roedd yn ŵr diwylliedig a ymddiddorai'n fawr yn llenyddiaeth ei wlad (golygodd gyfrol o waith Morgan Llwyd). Cyn ei ethol yn AS ysgrifennai'n gyson i'r wasg yng Nghymru ar bynciau diwylliannol a gwleidyddol, er enghraifft i'r Goleuad, y South Wales Daily News, a'r Carnarvon and Denbigh Herald.

Llyfryddiaeth[golygu]

Llyfrau Tom Ellis
  • T.E. Ellis, Speeches and Addresses (1912)
Llyfrau amdano
  • T.I. Ellis, Cofiant Tom Ellis, 2 gyfrol (1944, 1948)
  • Neville Masterman, The Forerunner: the Dilemmas of Tom Ellis (1972)
  • Owain Ll. Owain, Tom Ellis: Y Gwladgarwr (Caernarfon, d.d.=1915)

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Kenneth O. Morgan, Rebirth of a Nation. Wales 1880-1980 (Rhydychen, 1981), tud. 113.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Henry Robertson
Aelod Seneddol dros Feirionnydd
18861899
Olynydd:
Owen Morgan Edwards