Ifan ab Owen Edwards

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cerfluniau Owen Morgan Edwards (chwith) a'i fab Ifan ab Owen Edwards (dde) yn Llanuwchllyn

Roedd Syr Ifan ab Owen Edwards (25 Gorffennaf 189523 Ionawr 1970) yn fab i Owen Morgan Edwards, a aned yn Llanuwchllyn, Sir Feirionnydd. Mae'n fwyaf adnabyddus am sefydlu Urdd Gobaith Cymru yn y flwyddyn 1922.

Am gyfnod golygai'r cylchgrawn Cymru'r Plant ac ef oedd yn bennaf gyfrifol am sefydlu Ysgol Gymraeg yr Urdd, Aberystwyth yn 1939. Daeth ei fab, Owen Edwards, yn Brif Weithredwr cyntaf S4C.

Llyfrau ab Owen[golygu]

  • 1. Gwreichion y Diwygiadau wedi eu casgku gan Garneddog. 1905.
  • 2. Clych adgof. Penodau yn hanes fy addysg gan Owen M. Edwards. 1906.
  • 3. Tro trwy'r wig gan Richard Morgan. Cyfrol 1. 1906.
  • 4. Cerrig y Rhyd gan Winnie Parry. 1907.
  • 5. Capel Ulo gan Elwyn. 1907.
  • 6. Tro trwy'r gogledd gan Owen M. Edwards. 1907.
  • 7. Robert Owen, Apostol Llafur, Cyfrol 1. 1907.
  • 8. Dafydd Jones o Drefriw gan y Parch. O. Gaiannydd Williams. 1907.
  • 9. Tro i'r De gan Owen M. Edwards. 1907.
  • 10. Gwaith Hugh Jones, Maesglasau : i. Cydymaith yr Hwsmon, 1774. ii. Hymnau newyddion, 1797 1907.
  • 11. Trwy India'r Gorllewin gan y Parch. D. Cunllo Davies. dim dyddiad.
  • 12. Ceris y Pwll gan Owen Williamson, Dwyran, Môn. 1908.
  • 13. Robert Owen, Apostol Llafur, Cyfrol II. 1910.
  • 14. Caniadau Buddug wedi eu casglu a'u dethol gan ei phriod. 1911.
  • 15. Brut y Tywysogion. Cyfrol I. 1913.
  • 16. Cyfrinach y Dwyrain gan y Parch. D. Cunllo Davies. 1914.
  • 17. Dr. W. Owen Pughe gan y Parch. T. Mordaf Pierce. 1914.

Argraffwyd y cwbl gan Gwmni y Cyhoeddwyr Cymreig, Swyddfa "Cymru," Caernarfon. 'Ab Owen' sydd ar waelod y meingefn, ac eithrio bod enw 'Wrexham, Hughes a'i Fab' ar rai copïau. Mae'n debyg mai llenni gwreiddiol wedi eu rhwymo'n ddiweddarach yn Wrecsam yw'r copïau hynny, gan y ceir copïau gwreiddiol o'r un llyfrau gydag 'Ab Owen' ar y meingefn. Sylwer ar y nifer a ymddangosodd yn 1907, blwyddyn na chyhoeddodd ynddi ond un gyfrol o Gyfres y Fil.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1.  E.D.Jones (Awst 1977). LLYFRAU AB OWEN ~ Y Rhestr Lawn gan E.D.Jones. Adalwyd ar 4 Mai 2012.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Norah Isaac, Ifan ab Owen Edwards (Caerdydd, 1972). Golwg ar ei fywyd a'i waith.


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.