Llanuwchllyn
Pentref a chymuned tua dwy filltir i'r de o ben deheuol Llyn Tegid ym Meirionnydd, Gwynedd yw Llanuwchllyn. Mae'n sefyll oddi ar yr A494, 5 milltir i'r de-orllewin o'r Bala. Mae'r pentref yn rhedeg ar hyd lôn y B4403; adnabyddir y pen gogleddol fel Y Llan a'r pen deheuol fel Y Pandy. Mae'r gofgolofn i O.M. Edwards a'i fab Ifan yn sefyll wrth y briffordd. Yr ysgol gymunedol leol yw Ysgol O. M. Edwards, a enwir ar ôl yr addysgwr enwog.
Cynnwys |
Yr eglwys [golygu]
Yn eglwys Deiniol Sant ceir set o hen lestri cymun efydd, a berthynai, meddir, i Abaty Cymer. Nid yw'r rhan fwyaf o'r adeilad presennol yn hen (cafodd ei adnewyddu yn 1873), ond gellir gweld beddfaen cerfiedig hynod y marchog Ieuan ap Gruffudd yno, a fu farw yn 1370. Hefyd yn yr eglwys mae llech gofeb er cof am Rowland Vaughan (c. 1587 - 1667), y bardd a'r cyfieithydd o Gaer Gai (rhwng y pentref a'r Bala).
Enwogion [golygu]
Mae plwyf Llanuwchllyn wedi cynhyrchu nifer syfrdanol o enwogion, yn arbennig felly ym maes llenyddiaeth, gan gynnwys:
- Griffith Davies (Gwyndaf) (1868 - 1962), bardd ac englynwr.
- John Davies (Siôn Dafydd Las) (m. 1694), bardd teulu Nannau.
- John Edwards (Eos Glan Twrch) (1806 - 1887), llenor a bardd.
- Ifan ab Owen Edwards (1895 - 1970), mab O.M. a sefydlydd Urdd Gobaith Cymru.
- O.M. Edwards (1858 - 1920), un o brif gymwynaswyr iaith a diwylliant Cymru yn y cyfnod diweddar. Mae bedd O.M. yn yr hen fynwent yn Y Pandy.
- J. R. Jones, Ramoth (1765 - 1822), Bedyddiwr enwog, emynydd, cerddor.
- Lewis Jones (fl. 1703), bardd.
- Morris ap Robert (m. 1723), bardd.
- Thomas Roberts, athro ac ysgolhaig, golygydd cerddi canoloesol.
- Robert Thomas (Ap Vychan), bardd a llenor.
- Tudur Penllyn, Caer Gai (c. 1420 - 1485), bardd.
- Ieuan ap Tudur Penllyn (fl. c. 1480), bardd.
- Rowland Vaughan, Caer Gai (c.1587 - 1667), bardd a brenhinwr enwog yn y Rhyfel Cartref.
Cyfrifiad 2011 [golygu]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]
cyfeiriadau [golygu]
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Gweler hefyd [golygu]
- Rheilffordd Llyn Tegid
- Caer Gai olion caer Rufeinig a phlasdy.
- Castell Gronw: hen domen o'r Oesoedd Canol.
- Dolhendre - pentref deniadol filltir a hanner i'r gogledd.
- Castell Carn Dochan - un o amddiffynfeydd tywysogion Gwynedd.
- Moel Llyfnant - mynydd hardd 805m, 5 milltir i'r gogledd.
- Glan-llyn - cartref Urdd Gobaith Cymru.
- Bwlch y Groes - bwlch deniadol ar y ffordd i Ddinas Mawddwy
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Abererch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abermaw · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Y Bala · Bangor · Beddgelert · Bethania · Bethel · Bethesda · Betws Garmon · Blaenau Ffestiniog · Boduan · Bontddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Caernarfon · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Cricieth · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolgellau · Dolbenmaen · Dyffryn Ardudwy · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Frongoch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Harlech · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywair · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Nefyn · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhyndeudraeth · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Penygroes · Pistyll · Pontllyfni · Porthmadog · Portmeirion · Prenteg · Pwllheli · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhostryfan · Rhyd · Rhyd-Ddu · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Talysarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tregarth · Tremadog · Tudweiliog · Tywyn · Waunfawr