Elis Lewis
Elis Lewis | |
---|---|
Ganwyd | 17 g |
Bu farw | 1669 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cyfieithydd |
Cyfieithydd Cymreig oedd Elis Lewis (fl. 1640–1669). Roedd yn frodor o blwyf Llanuwchllyn ym Meirionnydd (de Gwynedd).[1]
Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod]
Fe'i cofir fel cyfieithydd llyfr Ralph Winterton, The Considerations of Dreselius upon Eternitie o'r Saesneg i'r Gymraeg. Cyfieithiad oedd gwaith Winterton o'r llyfr Lladin De Aeternitatae Considerationes gan Iesiwit Almaenig o'r enw Dreselius.[1]
Cafodd gyfieithiad Lewis, sy'n cynnwys dwy weddi ychanegol o ffynhonnell anhysbys, ganmoliaeth gan lenorion Cymraeg y cyfnod a cheir cerddi molawd i'r cyfieithydd ar ddechrau'r gyfrol gan y beirdd John Vaughan, Elis Anwyl, Edward Morris a'r brodyr Wiliam a Gruffydd Phylip o Ardudwy.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ 1.0 1.1 1.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).