Thomas Charles

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Thomas Charles

Clerigwr Methodistaidd enwog, addysgwr a diwinydd oedd Thomas Charles o'r Bala (14 Hydref, 1755 - 5 Hydref, 1814), a aned yn Llanfihangel Abercywyn, Sir Gaerfyrddin.

Roedd Thomas Charles o'r Bala yn frawd i David Charles, yr emynydd. Fe'i haddysgwyd yn Llanddowror, Sir Gaerfyrddin, Caerfyrddin, a Rhydychen. Ar ôl cyfnod yn offeiriad Anglicanaidd yng Ngwlad yr Haf priododd Sally Jones o'r Bala a symudodd i fyw yn y dref honno yn 1783. Yn 1784 ymunodd â'r Methodistiaid Calfinaidd a threuliodd weddill ei oes yn gweinidogaethu yn eu plith.

Gwaith llenyddol[golygu]

Ysgrifennai Thomas Charles yn y Gymraeg a'r Saesneg. Llyfrau hyfforddiadol i blant oedd ei waith cyntaf yn y Gymraeg. Yn Saesneg y cyhoeddodd ei lyfr Welsh Methodists Vindicated, sy'n amddiffyn y Methodistiaid rhag ymosodiadau gan elfennau ceidwadol yn Eglwys Loegr.

Ei waith llenyddol pwysicaf oedd ei eiriadur ysgrythurol a gyhoeddwyd mewn pedair cyfrol (1805, 1808, 1810, 1811) yn wreiddiol ac a adargraffwyd sawl gwaith yn ystod y 19eg ganrif. Yn ogystal â chyfleu llawer o wybodaeth newydd am cefndir hanesyddol yr Ysgrythurau, mae Charles yn trafod cysyniadau diwinyddol hen a newydd mewn arddull goeth, gaboledig.

Yn ogystal gweithiodd am flynyddoedd ar y gwaith o baratoi Beibl Cymraeg newydd, ar ran Y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol. Cafodd gymorth sylweddol gan Thomas Jones, Dinbych a Robert Jones, Rhos-lan.

Llyfryddiaeth[golygu]

Llyfrau Thomas Charles[golygu]

  • Catecism Byr (1789/1799)
  • Hyfforddwr yn Egwyddorion y Grefydd Gristnogol (1807)
  • Welsh Methodists Vindicated (1802)
  • Y Geiriadur Ysgrythurawl, 4 cyfrol (1805-1811)

Llyfrau ac erthyglau amdano[golygu]

  • D.E. Jenkins, The Life of the Rev. Thomas Charles, B.A., of Bala, 3 cyf. (1908)
  • E. Wyn James, 'Bala a'r Beibl: Thomas Charles, Ann Griffiths a Mary Jones' [1]
  • E. Wyn James, 'Pererinion ar y Ffordd: Thomas Charles ac Ann Griffiths', Cylchgrawn Hanes Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, 29-30 (2005-06)
  • R. Tudur Jones, Thomas Charles o'r Bala, Gwas y Gair a Chyfaill Cenedl (1979)
  • R. Tudur Jones, 'Diwylliant Thomas Charles o'r Bala', yn Ysgrifau Beirniadol IV, gol. J. E. Caerwyn Williams (1969)

Cyfeiriadau[golygu]