Llyn Tegid

Oddi ar Wicipedia
Llyn Tegid
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Eryri Edit this on Wikidata
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd4.84 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.8833°N 3.6333°W Edit this on Wikidata
Hyd5.95 cilometr Edit this on Wikidata
Rheolir ganCyfoeth Naturiol Cymru Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Llyn naturiol mwyaf Cymru yw Llyn Tegid (6.4 km / 4 milltir o hyd, 1.6 km/1 milltir o led). Fe'i lleolir i'r de o'r Bala yng nghanol ardal Penllyn ym Meirionnydd, de Gwynedd. Mae Afon Dyfrdwy yn llifo trwyddo. Mae Rheilffordd Llyn Tegid yn rhedeg ar hyd ei lannau deheuol. Mae'n gorwedd rhwng mynyddoedd Aran Benllyn a'r Berwyn i'r dwyrain ac Arenig Fawr i'r gorllewin. Mae'r llyn yn boblogaidd iawn i hwylio, bordhwylio, canŵio a physgota. Ar ei lan gogleddol ceir Canolfan Glanllyn, gwersyll yr Urdd.

Bywyd gwyllt[golygu | golygu cod]

Llyn Tegid

Mae'r llyn dwfn, clir yn gartref i lawer o anifeiliaid megis, er enghraifft penhwyaid, brithyllod a llysywenod. Mae nifer o'r rhywogaethau sydd yn byw yn y llyn yn brin iawn - er enghraifft pysgod fel y gwyniad (Coregonus lavaretus) a malwen dŵr croyw brinnaf Prydain, y falwen lysnafeddog (Myxas glutinosa). Yn ystod y blynyddoedd diweddar mae'r broblem o ewtroffigedd wedi datblygu yn Llyn Tegid sydd yn berygl fawr i nifer o'r rhywogaethau a geir yn y llyn.

Traddodiadau[golygu | golygu cod]

Criw o blant ar lan y llyn tuag 1885.

Cysylltir y cymeriad chwedlonol Tegid Foel â'r llyn.[1]

Yn y chwedl Hanes Taliesin mae Tegid yn ŵr i'r dduwies / wyddones Ceridwen. Roedd ei lys yn sefyll ar dir sydd dan ddŵr y llyn heddiw. Yn ôl traddodiadau llên gwerin, boddwyd llys Tegid Foel un noson. Dywedir fod golau'r llys a'r dref fach o'i gwmpas i'w weld liw nos loergan.

Traddodiad diweddar iawn yw'r un am yr anghenfil o'r enw "Tegi" sydd yn nofio yn nyfnderau Llyn Tegid. Datblygodd y chwedl dan ddylanwad amlwg y chwedl am "Nessie" yn Loch Ness, yn yr Alban.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Oriel: Llynnoedd Eryri". BBC Cymru Fyw. 2023-11-15. Cyrchwyd 2023-11-16.

Oriel[golygu | golygu cod]