Ceridwen

Oddi ar Wicipedia
Ceridwen
Ceridwen (1910) gan Christopher Williams (1873-1934).
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
PriodTegid Foel Edit this on Wikidata
PlantMorfran eil Tegid, Creirwy Edit this on Wikidata

Cymeriad chwedlonol Gymreig yw Ceridwen. Mae hi'n cael ei chysylltu â'r Taliesin chwedlonol (a adnabyddir fel 'Gwion Bach' yn rhan gyntaf y chwedl) yn y chwedl Hanes Taliesin. Yn y chwedl honno, mae hi'n wyddones sy'n byw ar lan Llyn Tegid ac yn wraig i Tegid Foel. Yn ôl rhai dehonglwyr myth, gellid ei hystyried yn agwedd ar y Fam-dduwies ac mae'n bosibl fod ei gwreiddiau'n gorwedd yn y cyfnod cyn dyfodiad y Celtiaid i Brydain. Yn y Traddodiad Barddol Cymreig, Pair Ceridwen yw ffynhonnell yr Awen a phob Gwybodaeth.

Etymoleg[golygu | golygu cod]

Y ffurf gynnar ar ei henw, a geir mewn testun yn Llyfr Du Caerfyrddin, oedd Cyrridfen (o cyrrid- "rhywbeth cam"? + ben "gwraig, benyw"). Ond mae gwen yn yr hen ystyr "sanctaidd, dwyfol", yn elfen gyffredin mewn enwau santesau Cymreig (Gwenffrewi, Dwynwen, er enghraifft) ac enwau duwiesau a chymeriadau chwedlonol fel Gwenhwyfar a Branwen. Rhydd Rachel Bromwich "teg ac annwyl" fel ystyr yr enw Ceridwen. Yn ôl pob tebyg, roedd Ceridwen yn dduwies Geltaidd yn wreiddiol, cyn droi'n ffigwr llên gwerin.

Y chwedl[golygu | golygu cod]

Ceridwen yn berwi'r perlysiau yn y pair, gyda Gwion Bach o'i blaen a Thegid Foel yn y cefndir (llun: J. E. C. Williams, tua 1900)

Yn y chwedl Hanes Taliesin (neu Ystoria Taliesin[1]), mae Ceridwen yn wraig i Degid Foel ac yn byw ym Mhenllyn ar lan Llyn Tegid (ger Y Bala heddiw). Fe'i cysylltir â dŵr a pherlysiau "rhinweddol" (h.y. sy'n iachau neu sy'n gysylltiedig â grymoedd hud a lledrith). Mae hi'n berwi'r llysiau mewn pair "am undydd a blwyddyn" ar lan y llyn ar gyfer ei mab Morfran (a lysenwir 'Afagddu' am ei fod mor hyll). Yn ogystal mae ganddi ferch hardd o'r enw Creirwy, sy'n un o "Dair Gwenriain Ynys Brydain" yn Nhrioedd Ynys Prydain.

Mae'r bortread o Geridwen yn berwi ei pherlysiau yn y pair yn debyg i'r disgrifiadau traddodiadol o wrachod (fel y tair gwrach yn Macbeth Shakespeare). Mae'n debyg mai duwies Natur gyda galluoedd creadigol a dinistriol oedd hi, fel Hecate ym mytholeg Roeg. Mae hi'n newid rhith wrth geisio dal Gwion Bach/Taliesin, gan newid yn filiast, yn iâr ac yn bysgodyn, ac mae hyn hefyd yn awgrymu ei bod yn cynrychioli Natur.

Tystiolaeth y beirdd[golygu | golygu cod]

Ceir sawl cyfeiriad at Bair Ceridwen yng ngwaith y beirdd Cymraeg. Cafodd Taliesin, yn ei rith chwedlonol, tair dafn o ysbrydoliaeth yr Awen ohoni, ar ddamwain. Roedd Taliesin yn cael ei weld fel tad y Traddodiad Barddol gan y beirdd. Cyfeirir at Ceridwen a'i phair, ac at y Taliesin chwedlonol fel bardd Elffin, yng ngwaith rhai o Feirdd y Tywysogion, e.e. Cynddelw Brydydd Mawr yn y 12g.[2] Yn ogystal, ceir cyfeiriadau at Bair Ceridwen mewn rhai o'r cerddi chwedlonol a dadogir ar Daliesin yn Llyfr Taliesin.[3] Mae'n bosibl bod rhai o'r cerddi hyn yn dyddio o tua'r 10g.

Dehongliadau modern[golygu | golygu cod]

Cytunodd Syr John Rhys, yn 1878, â damcaniaeth myth yr Haul yr ysgolhaig Almaenig Max Muller, sy'n honni "mai duwiesau'r wawr yw Gwenhwyfar a Ceridwen."[4] Yn ei lyfr dylanwadol The White Goddess ac ysgrifau eraill, ceisiodd Robert Graves weithio Ceridwen i mewn i'w gysyniad am y Dduwies Driphlyg, gan weld ynddi agwedd ddinistriol y dduwies honno.[5]

Mae dilynwyr Wica yn gweld Ceridwen - weithau wrth yr enw 'Ceridwyn', nad oes sail iddi yn y traddodiad Cymreig - yn dduwies gyda'i phair yn symbol o'r egwyddor fenywaidd sanctaidd.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Ford, Ystoria Taliesin.
  2. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein, tud. 309.
  3. J. Gwenogvryn Evans (gol.), The Book of Taliesin (Llanbedrog, 1910), 33.10; 27.13-14; 33.10.
  4. John Rhys, Lectures on Welsh Philology, Trübner, 1879, tud. 305.
  5. Ronald Hutton, The Triumph of the Moon: A History of Modern Pagan Witchcraft, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2001, tud. 192.
  6. "Cerridwen: Keeper of the Cauldron". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-11. Cyrchwyd 2009-02-08.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain, gol. Rachel Bromwich (Caerdydd, arg. newydd 1991)
  • Patrick K. Ford, Ystoria Taliesin (Caerdydd, 1992)
  • Ifor Williams, Chwedl Taliesin (Caerdydd, 1957)