Gwenhwyfar

Oddi ar Wicipedia
Gwenhwyfar; llun gan John Collier gyda'r teitl Queen Guinevre's Maying

Gwenhwyfar (Lladin: Guinhumara, Ffrangeg: Guenièvre, Saesneg: Guinevere) oedd gwraig y Brenin Arthur. Disgrifir hi mewn rhai ffynonellau Cymraeg fel merch i Ogfran Gawr, ac mae traddodiad fod iddi chwaer o'r enw Gwenhwyfach.

Ymddengys mewn nifer o testunau Cymreig, er enghraifft, crybwyllir hi yn chwedl Culhwch ac Olwen, er nad oes ganddi ran fawr yn y stori. Ceir cyfres o hen englynion gyda'r teitl Ymddiddan Arthur a Gwenhwyfar, sydd efallai wedi goroesi o chwedl goll gynnar amdani. Ym Muchedd Gildas o waith Caradog o Lancarfan, dywedir i Melwas, brenin Aestiva Regio (Gwlad yr Haf), ei chipio a'i chadw'n garcharor. Ymddengys y chwedl yma yng ngwaith Chrétien de Troyes hefyd. Mae fersiwn Sieffre o Fynwy o'r digwyddiad yn ei Historia Regum Britanniae ychydig yn wahanol; dywed iddi odinebu gyda Medrod, nai Arthur, a gorffen ei hoes fel lleian yng Nghaerllion ar Wysg. Ceir nifer o gyfeiriadau ati yn y Tair Rhamant.

Yn y fersiynau diweddarch o chwedlau Arthur, mae Gwenhwyfar yn cynnal carwriaeth a Lawnsalot, ac mae hyn yn y pen draw yn arwain at Frwydr Camlan a dinistr y deyrnas. Mae traddodiad arall fod y cweryl rhwng Arthur a Medrawd wedi dechrau fel ffrae rhwng Gwenhwyfar a'i chwaer Gwenhwyfach (amrywiad: Gwenhwyach).

Mae un o Drioedd Ynys Prydain (53) yn cofnodi Gwenhwyfach yn taro Gwenhwyfar fel un o'r 'Tair Gwith (Niweidiol) Balfawd ('cernod')' am iddo arwain at Frwydr Camlan.