Cyfoeth Naturiol Cymru

Oddi ar Wicipedia
Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales
Sefydlwyd1 Ebrill 2013
MathCorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru
PwrpasGwarchod yr amgylchedd a rheoleiddio; cynnal adnoddau naturiol
PencadlysTŷ Cambria, Ffordd Casnewydd, Caerdydd
Rhanbarth a wasanethir
Cymru Cymru
Prif Weithredwr
Clare Pillman (Chwefror 2018-)
Cysylltir gydaLlywodraeth Cymru
GwefanCyfoeth Naturiol Cymru

Sefydlwyd Cyfoeth Naturiol Cymru (Saesneg: Natural Resources Wales) sy'n gorff a gaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ar 1 Ebrill 2013[1] pan unwyd y gwaith o reoli adnoddau naturiol Cymru. Mae'n dod â gwaith tri chorff a oedd yn bodoli cyn hyn at ei gilydd: Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, a'r Comisiwn Coedwigaeth a pheth gwaith a arferid ei wneud gan Lywodraeth Cymru.[2] Y Prif Weithredwr yw Clare Pillman[3] a'r Cadeirydd ers Tachwedd 2015 yw Diane McCrea, sy'n dilyn yr Athro Peter Matthews a Madeleine Havard yn ddirprwy.[4][5]

Cynllun atal llifogydd Pontarddulais

Honodd Llywodraeth Cymru y byddai'r corff newydd hwn yn arbed £158 miliwn dros gyfnod o ddeg mlynedd.[6] Un pryder a leisiwyd gan swyddogion yr adran goedwigaeth oedd y byddai eu llais yn cael ei foddio o dan y drefn newydd.[7]

Fideo gan GNC yn dangos peth o'u gwaith yn Niwbwrch.

Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r corff mwyaf a noddir gan Lywodraeth Cymru; mae’n cyflogi oddeutu 1,900 o staff ledled Cymru, gyda chyllideb o £180 miliwn yn 2016.

Prif weithredwyr[golygu | golygu cod]

Dr Emyr Roberts oedd prif weithredwr cyntaf y corff ac ymddeolodd yn Hydref 2017 gyda Kevin Ingram, y cyfarwyddwr cyllid yn gwneud ei waith dros dro. Penodwyd Clare Pillman fel prif weithredwr newydd cychwynnodd ar ei gwaith yn Chwefror 2018.[8]

Cadeiryddion[golygu | golygu cod]

Yr Athro Peter Matthews oedd cadeirydd cyntaf y corff [4] Penodwyd Diane McCrea fel cadeirydd newydd yn 2015 ond ymddiswyddodd yn Gorffennaf 2018 yn dilyn adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol yn dweud bod cytundebau y corff i werthu pren yn anghyfreithiol.[9]

Polisi drws agored[golygu | golygu cod]

Yn 2016, newidiodd ei bolisi trwyddedu adnoddau megis fideos i drwydded agored Comin Creu (CC-BY-SA).

Gweithdrefnau rheoli[golygu | golygu cod]

Mae gorchwyl gwaith CNC yn cynnwys dros 40 math o orchwylion rheoli sydd wedi'u hetifeddu ganddynt. Maent yn cynnwys:[10]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Amserlen". Llywodraeth Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-05. Cyrchwyd 25 Hydref 2012.
  2. "Single Body". Llywodraeth Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-31. Cyrchwyd 25 Hydref 2012.
  3. "Chief executive named for merged environmental body". BBC News. 6 Hydref 2012. Cyrchwyd 25 Hydref 2012.
  4. 4.0 4.1 "Environment body chairman promises efficient service". BBC News. 1 Awst 2012. Cyrchwyd 25 Hydref 2012.
  5. Gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru; Archifwyd 2016-05-14 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 28 Ebrill 2016.
  6. "One environment body will save £158m - Welsh government". BBC News. 29 Tachwedd 2011. Cyrchwyd 25 Hydref 2012.
  7. "Forestry concern as minister names natural resources body". BBC News. 25 Hydref 2012. Cyrchwyd 25 Hydref 2012.
  8. Penodi prif weithredwr newydd Cyfoeth Naturiol Cymru , BBC Cymru, 31 Hydref 2017.
  9. Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymddiswyddo , BBC Cymru, 9 Gorffennaf 2018. Cyrchwyd ar 20 Gorffennaf 2018.
  10. "Cyfoeth Naturiol Cymru / Cyfrifoldebau Rheoleiddio". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-13. Cyrchwyd 2014-05-05.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]