Arenig Fawr
| Arenig Fawr (Arenig) |
|
|---|---|
| Cyfieithiad | |
| Iaith | Cymraeg |
| Testun y llun | Arenig Fawr o ffordd Ffestiniog |
| Uchder (m) | 854 |
| Uchder (tr) | 2802 |
| Amlygrwydd (m) | 479 |
| Lleoliad | rhwng y Bermo a Betws-y-Coed a'r Bala |
| Map topograffig | Landranger 124 125; Explorer 18E |
| Cyfesurynnau OS | SH827369 |
| Gwlad | Cymru |
| Dosbarthiad | Marilyn, Hewitt a Nuttall |
Mae Arenig Fawr yn gopa mynydd rhwng y Bermo a Betws-y-Coed a'r Bala yn ne-ddwyrain Parc Cenedlaethol Eryri; cyfeiriad grid SH827369. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 375metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf. Saif i'r de-orllewin o Lyn Celyn ac i'r de o'r briffordd A4212 rhwng Trawsfynydd a'r Bala, gyda chopa is Moel Llyfnant i'r de-orllewin ohono. Mae Arenig Fach i'r gogledd, yr ochr arall i'r A4212. Gellir ei ddringo o'r ffordd gefn rhwng Trawsfynydd a Llanuwchllyn, neu o'r ffordd i'r de o Lyn Celyn.
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 854m (2802tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.
Ar ei lethrau mae Llyn Arenig Fawr, ac ar y copa ceir cofeb i griw awyren Flying Fortress o Lu Awyr yr Unol Daleithiau a laddwyd pan darawodd y mynydd yn 1943.
Gweler hefyd [golygu]
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o Gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 3,000' (y Munros)
- Rhestr mynyddoedd uchaf y byd