Moel Siabod

Oddi ar Wicipedia
Moel Siabod
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr872 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0731°N 3.9325°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH7052754634 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd599.9 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaGlyder Fawr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddY Moelwynion Edit this on Wikidata
Map

Mae Moel Siabod yn fynydd yn Eryri sy'n rhan o gadwyn fynydd Y Moelwynion.

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Mae Moel Siabod yn sefyll ar ei ben ei hun rhwng Betws-y-Coed, Capel Curig a Dolwyddelan yn Sir Conwy. I'r de-orllewin mae copa is, Carnedd y Cribau. Dywedir fod modd gweld 13 o'r 14 copa dros 3,000 o droedfeddi yng Nghymru o gopa Moel Siabod heb droi pen. Mae Canolfan Fynydda Genedlaethol Plas-y-Brenin wrth droed Moel Siabod, gerllaw Llynnau Mymbyr.

Llwybrau[golygu | golygu cod]

Gellir dringo'r mynydd o bentref Capel Curig, gan ddechrau gerllaw Plas y Brenin, neu ychydig ymhellach ar hyd ffordd yr A5 gerllaw Pont Cyfyng a heibio Llyn y Foel. Gellir hefyd ei ddringo o ochr Dolwyddelan.

Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Conwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.