Garndolbenmaen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Garndolbenmaen: canol y pentref
Golygfa ar ardal Garndolbenmaen.

Pentref yng Ngwynedd yw Garndolbenmaen. Gorwedd ger yr A487 tua 6 milltir i'r gogledd-orllewin o dref Porthmadog. Y pentrefi agosaf yw Dolbenmaen a Bryncir. Mae'n ran o gymuned Dolbenmaen, sydd â phoblogaeth o 1,300.[1] Y Ffynnon yw papur bro Garndolbenmaen.

Yno hefyd mae stiwdio recordio Blaen y Cae, ble recordwyd albym Pep Le Pew, Un tro yn y Gorllewin ac albym diweddaraf Gwyneth Glyn, sef Wyneb Dros Dro. Mae'r cynhyrchydd a'r cerddorwr Dyl Mei hefyd yn byw yng Ngarndolbenmaen.

Mae tua 50 o ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Garndolbenmaen,[2] mae nifer yn teithio yno o bentrefi cyfagos megis Pant Glas, Bryncir, Cwm Pennant a Golan. Mae'r nifer yma wedi aros yn gyson am oleiaf ugain mlynedd.

Eisioes mae nifer o hen fythynod yng Ngarndolbenmaen wedi eu troi yn dai haf.

Mae Cynghorwr Sir Gwynedd ar gyfer ward Dolbenmaen, Steve Churchman, o blaid Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, yn bostfeisr ac yn rhedeg siop yno.

Enwogion[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]