Dyl Mei

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Ganwyd Dylan Meirion Roberts, neu Dyl Mei fel gelwir, ym Mhenrhyndeudraeth yn 1981, cyn symyd i Borthmadog ac yna Garndolbenmaen, lle mae'n rheolwr ar stiwdio recordio Blaen y Cae ac yn gweithio fel cynhyrchwr/peiriannwr cerddoriaeth. Fo sy'n gyfrifol am label Slacyr. Addysgwyd yn Ysgol Eifionydd, Porthmadog. Ei dad yw Huw Meirion ('Monti') a'i fam yw Louie Roberts, Rheolwr Cyffredinol Siop Lyfrau ym Mhortmeirion. Mae ganddo ddau frawd, Osian a 'Monti Bach'; un chwaer, Nia; a chath o'r enw Peter Glyn.

Mae wedi gweithio gydag amrywiaeth o gerddorion, gan gynnwys Genod Droog, Mc Mabon, Pep Le Pew, Vates!, Kentucky AFC, Tecwyn Ifan, Texas Radio Band, Spoonidols, The Locusts, Gwyneth Glyn, Plant Duw, Pwsi Meri Mew, MC Saizmundo, Y Llongau, Y Lladron, Gwallt Mawr Penri a Cowbois Rhos Botwnnog.

Mae hefyd yn athro technoleg cerddoriaeth yn ei amser sbâr.

[golygu] Gwobrau ac Anrhydeddau

[golygu] Dolenni Allanol

Offer personol
Parthau
Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer