Ysgol Eifionydd, Porthmadog
| Ysgol Eifionydd, Porthmadog | |
|---|---|
| Logo Ysgol Eifionydd | |
| Arwyddair | Ymlaen |
| Sefydlwyd | (Cyn 1894) |
| Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
| Cyfrwng iaith | Cymraeg |
| Pennaeth | Mrs Alwen P. Watkin |
| Lleoliad | Porthmadog, Gwynedd, Cymru, LL49 9HS |
| AALl | Cyngor Gwynedd |
| Disgyblion | 487[1] |
| Rhyw | Cyd-addysgol |
| Oedrannau | 11–16 |
| Lliwiau | Bwrgwyn (Du, brown a melyn gynt) |
| Gwefan | eifionydd.gwynedd.sch.uk |
Ysgol gyfun ddwy-ieithog yw Ysgol Eifionydd, Porthmadog, gyda'r rhan fwyaf o'i disgyblion yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf. Fe'i lleolir wrth ymyl Rheilffordd Eryri ym Mhorthmadog ac mae'n gwasanaethu ardal De-Ddwyrain Dwyfor gan gynnwys Porthmadog a Chricieth.
Roedd 487 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2006, o'i gymharu â 534 yn 2005.[1][2]
Mae'r ysgol dros gan mlwydd oed. Un o'i chyn-ddisgyblion enwocaf oedd yr ysgolhaig a'r bardd T. H. Parry-Williams a aeth yno yn 11 oed yn 1898. Roedd yn arfer bod yn ysgol ramadeg yn hytrach nag yn ysgol gyfun; Ysgol Ganolradd Porthmadog oedd ei henw ar y pryd.
Un o gyn-athrawon Ysgol Eifionydd yn yr adran gelf ac arlunio oedd Rob Piercy, sydd bellach yn beintiwr llwyddianus.
Cynnwys |
[golygu] Cyn-ddisgyblion
- Robert Armstrong-Jones, meddyg a seiciatrydd
- Dyfan Dwyfor, actor
- Dyl Mei, cerddor
- Jamie Shepherd, darlledydd a gohebydd
- T. H. Parry-Williams, ysgolhaig a bardd
[golygu] Ysgolion cynradd yn nhalgylch yr ysgol
- Ysgol Beddgelert
- Ysgol Borthygest
- Ysgol Treferthyr
- Ysgol Garndolbenmaen
- Ysgol Eifion Wyn
- Ysgol y Gorlan
- Ysgol Llanystumdwy
Nodir: Daw 17% o'r plant o du-allan i dalgylch yr ysgol. (2005)[1]
[golygu] Dolenni allanol
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 1.2 Len Jones (Hydref 2005). Adroddiad Arolygiad Ysgol Eifionydd, 5–Hydref 2005. Estyn. Adalwyd ar 25 Awst 2011.
- ↑ Cyngor Gwynedd