Cynhyrchydd recordiau

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Yn y diwydiant cerddorol, mae sawl cyfrifoldeb gwahanol gan gynhyrchydd recordiau. Mae'r rhain yn cynnwys rheoli'r sesiynau recordio, hyfforddi a rhoi arweiniad i'r cerddorion, trefnu cyllid ac adnoddau cynhyrchu a goruwchwylio'r prosesau recordio, cymysgu a rhaglenni. Dyma fu prif swyddogaethau cynhyrchwyr recordiau ers i sain ddechrau cael ei recordio, er yn ystod ail hanner yr 20fed ganrif, mae nifer o gynhyrchwyr wedi cymryd arnynt rôl mwy entrepreneuraidd.

Mewn rhai ffyrdd, gellir cymharu cynhyrchydd recordiau â chyfarwyddwr ffilm am fod swyddi'r ddau yn ymwneud â chreu, siapio a mowldio darn o gerddoriaeth yn unol â'u gweledigaeth ar gyfer yr albwm. Fodd bynnag, yn wahanol i fyd ffilmiau, pur anaml y bydd y cynhyrchydd recordiau'n gyfrifol am ariannu'r prosiect. Gan amlaf, cyflogir y cynhyrchydd recordiau gan bobl sydd â'r arian yn ei le'n barod (fel arfer y cwmnïau recordiau neu gyhoeddi, er weithiau gan yr artist ei hun.)

Musical notes.svg Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau
Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill