Portmeirion
Arbrawf ar arfordir Eryri ac ymgais i greu datblygu cynaladwy sy'n gydnaws a'i amgylchfyd o ran tirwedd a diwylliant yw Portmeirion. Lleolir ym Meirionnydd, a roes iddo'i enw, ynghyd â'r rhagddodiad Port i gyfleu naws Port arall, sef Portofino yn Yr Eidal, ar lannau Afon Dwyryd, ger Bae Tremadog. Mae'r fynedfa iddo hanner ffordd rhwng Penrhyndeudraeth a Phorthmadog, ar yr A487. Mae yna dai a siopau, bwytai a gwestai yn y pentref, rai ohonyn nhw'n adeiladau gwreiddiol ac eraill wedi eu cynllunio gan Clough Williams-Ellis a'i codi ganddo ar benrhyn Aber Iâ a brynodd yn 1925 a'i agor fel Gwesty dros y Pasg, 1926. Adeiladwyd y pentref gan y pensaer a'r cadwriaethwr Syr Clough Williams-Ellis er mwyn dangos bod modd datblygu lle hardd heb ei ddinistrio ac y gellid, o arddel disgyblaeth lem, ychwanegu at yr harddwch naturiol. Ar dir y gwesty gellir ymweld ag adfeilion Castell Deudraeth, a godwyd gan feibion Cynan ab Owain Gwynedd tua chanol y 12fed ganrif.
Hanes [golygu]
Rhwng 1926 a 1939 codwyd tua hanner y pentref gan gynnwys addasu'r Gwesty, codi bythynnod Neifion ac Angel, y twr clychau, ty'r llywodraeth, dolffin, y drindod, y siantri, llety'r foneddiges, llety'r prior, neuadd y dref, y twr gwylio—ac yna daeth seibiant tan 1954 oherwydd y rhyfel, deddfau cyfyngu ar adeiladu a'r tân yn ei garterf Plas Brondanw yn 1951. Wedi trwsio'i dy, aeth ati o 1954 i 1973 i orffen ei waith gydag adeiladau megis y gatws, colofnres bryse 1957, y gromen 1960, ty pont, ty clogwyn, uncorn, twr telfford, y bwâu, y sgwar canol. Ym 1966 dewiswyd y lle fel cefndir i'r gyfres The Prisoner gyda Patrick McGoohan a ddaeth yn glasur cwlt teledu'r 1960au. Mae'r pentref tua 6 milltir o Blas Brondanw, tŷ'r teulu ers pum can mlynedd. Mae pentref Portmeirion ar agor i ymwelwyr dydd a phreswylwyr nos bob dydd o'r flwyddyn. Perchennog y pentref a hefyd stad Brondanw, eiddo Williams-Ellis yng Nghwm Croesor, sy'n cynnwys Plas Brondanw, yw'r Elusen y Second Portmeirion Foundation neu Ail Ymddiriedolaeth Portmeirion yn unol a dymuniad y sylfaenydd.
Cyn iddo godi Portmeirion, roedd Williams-Ellis yn chwilio am leoliad addas i bentref ei freuddwydion am flynyddoedd, yn bennaf ar ynysoedd ym mhob cwr o Gymru, ond o'r diwedd penderfynodd brynu a datblygu gorynys Aber Iâ. Roedd e'n credu nad oedd yr enw Aber Iâ yn ddigon "Cymraeg" ac felly newidiodd yr enw i Bortmeirion.
Adeiladwyd y pentref lliwgar ar lethr creigiog ar lan yr afon ac mae'r Campanile, Tŵr y Cloch, sydd ar gopa'r bryn yn ganolbwynt iddo. Y Plasdy sydd yn cael ei ddefnyddio fel gwesty heddiw yw'r unig tŷ gwreiddiol. Ymhlith y tai sydd yn dod o ardaloedd eraill mae tý'r arlunydd Augustus John. Mae'r Neuadd Hercules yn dod o Sir y Fflint a'r Pantheon o Sir Gâr—ond nid yn unig tai cyfan wedi eu symud sy' yn y pentref, ond hefyd colofnau o Fryste a Hooton Hall yn Sir Gâr. Ac er bod y pentref yn ymdebygu i bentref Eidalaidd mae Bwda yno hefyd.
Mae'r pentref yn enwog am fod yn lleoliad y gyfres teledu The Prisoner ac mae e'n safle twristiaid gyda tua 250,000 o ymwelwyr yn dod pob blwyddyn. Ymhlith ei ymwelwyr enwog mae Noel Coward, Gregory Peck, Ingrid Bergman a Paul McCartney. Ym 1956 ymwelodd y pensaer Frank Lloyd Wright â'r pentref ac roedd e'n falch iawn o'r amgylchedd a'r adeiladau hardd.
Cysylltiadau Allanol [golygu]
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Abererch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abermaw · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Y Bala · Bangor · Beddgelert · Bethania · Bethel · Bethesda · Betws Garmon · Blaenau Ffestiniog · Boduan · Bontddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Caernarfon · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Cricieth · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolgellau · Dolbenmaen · Dyffryn Ardudwy · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Frongoch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Harlech · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywair · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Nefyn · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhyndeudraeth · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Penygroes · Pistyll · Pontllyfni · Porthmadog · Portmeirion · Prenteg · Pwllheli · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhostryfan · Rhyd · Rhyd-Ddu · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Talysarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tregarth · Tremadog · Tudweiliog · Tywyn · Waunfawr