Plas Brondanw

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Plas Brondanw.
Gerddi Plas Brondanw.

Plasdy yng Ngwynedd yw Plas Brondanw, a gysylltir â gweledigaeth bensaernïol Clough Williams-Ellis, cynllunwr Portmeirion. Mae'r ystâd, a leolir ger Croesor yn nhroedfryniau Eryri, yn adnabyddus am ei gerddi hefyd.

Dilyn athroniaeth y Mudiad Celf a Chrefft wnaeth Clough Williams-Ellis wrth ailgynllunio Plas Brondanw yn dilyn tân enfawr yn 1951. Aeth ati i ailgynllunio'r tŷ gan ddefnyddio defnyddiau a darnau allan o ddwsinau o dai hanesyddol eraill. Dull Siorsaidd oedd yn boblogaidd yr adeg honno, ac felly roedd Clough yn torri tir newydd yn gwneud hyn. Gosododd bethau megis colofnau, porticos, rheiliau a.y.y.b. yn y tŷ mewn ffordd unigryw iawn. Cymerodd e ddwy flynedd i wneud y gwaith. Gellir gweld ôl y cynllunydd ym mhob cwt a chornel. Mae'r ystâd yn ymestyn dros 3000 erw ac mae'n cynnwys 53 o gartrefi a 5 fferm.

Cwblhaodd John ap Hywel y gwaith o adeiladu'r Plas Brondanw gwreiddiol tua 1550.

Mae Ystad Brondanw a Phortmeirion yn eiddo i Elusen Gofrestredig, bellach, sef: Ymddiriedolaeth Clough Williams-Ellis.

Dolen allanol[golygu]