Cynan ab Owain Gwynedd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd Cynan ab Owain Gwynedd (m. 1174) yn fab i Owain Gwynedd, brenin Gwynedd ac un o wyrion Gruffudd ap Cynan.

Bywgraffiad[golygu]

Roedd gan Cynan chwech o frodyr, sef Hywel (y bardd-dywysog, m. 1170), Iorwerth Drwyndwn (tad Llywelyn Fawr), Rhun (m. 1146), Maelgwn, Dafydd (m. 1203), Rhodri (m. 1195, hendaid Senana gwraig Gruffudd ap Llywelyn a mam Llywelyn ein Llyw Olaf).

Roedd Cynan yn dad i Ruffudd (m. 1200) a Maredudd (m. 1212) ac i'r dywysoges Gwerful Goch. Trwy Faredudd roedd yn orhendaid i Fadog ap Llywelyn, arweinydd gwrthryfel y gogledd yn erbyn y gorsgyniaid Seisnig yn 1294-1296.

Llyfryddiaeth[golygu]

Ceir siart achau Cynan ab Owain Gwynedd yn,

  • J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1986).