Gruffudd ap Llywelyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Am Gruffudd ap Llywelyn, tad Llywelyn Ein Llyw Olaf, gweler Gruffudd ap Llywelyn Fawr.

Gruffudd ap Llywelyn (tua 10005 Awst 1063) oedd yr unig frenin Cymreig y bu'r Cymry i gyd yn ddeiliaid iddo, a'r unig un hefyd a drechodd luoedd Lloegr droeon.[1]

Gyrfa[golygu]

Teyrnas Gruffudd ap Llywelyn

Roedd Gruffudd yn fab i Lywelyn ap Seisyll, y gŵr a gipiodd orsedd Gwynedd yn 1018, ac i Angharad, merch Maredudd ab Owain, disgynnydd i Rodri Mawr, ond nid oedd yn aelod o frenhinllin arferol Gwynedd, disgynyddion Idwal Foel. Yn 1039, daeth Gwynedd a Phowys i'w feddiant wedi iddo ladd Iago ap Idwal ap Meurig, gor-ŵyr Idwal ab Anrawd. Yna aeth i'r afael â Deheubarth a'u harweinydd Hywel ab Edwin. Mewn brwydr enbyd ym Mhencader (gweler Brwydr Pencader) yn 1041 trechodd Gruffudd Hywel gan ddwyn ei wraig oddi arno. Erbyn 1044 yr oedd wedi meddiannu Deheubarth, ond collodd ei afael ar y deyrnas honno yn 1047 a rhwystrwyd ei uchelgais yno gan Ruffudd ap Rhydderch. Ni ddaeth Deheubarth yn derfynol i afael Gruffudd tan 1055 pan laddwyd Gruffudd ap Rhydderch. Yr oedd yn awr wedi dod i gytundeb â Mersia, ac enillodd lawer o diriogaeth ar y gororau, tiroedd tu draw i Glawdd Offa a feddiannwyd ers tri chan mlynedd a mwy gan wladychwyr Seisnig, gan gynnwys cipio a llosgi Henffordd yn 1055 ac ailfeddiannu Chwitffordd a'r Hob, Bangor Is-Coed a'r Waun, Llanandras a Maesyfed. Erbyn hyn gallai hawlio bod yn frenin ar Gymru gyfan bron. Derbyniwyd ei hawl dros Gymru gan y Saeson, a daeth i gytundeb ag Edward y Cyffeswr. Flwyddyn neu ddwy yn ddiweddarach, cipiodd Forgannwg gan ymlid oddi yno Gadwgan ap Meurig o linach Hywel ap Rhys. Felly o tua 1057 hyd ei farw yn 1063, cydnabu Cymru i gyd frenhiniaeth Gruffudd ap Llywelyn.[2] Ys dywed yr hanesydd John Davies: "Am ryw saith mlynedd bu Cymru'n un o dan reolwr Cymreig, gorchest na chyflawnwyd mohoni na chynt na chwedyn."[3]

Gerwin oedd dull Gruffudd ap Llywelyn o uno cenedl. Edliwyd iddo ei barodrwydd i ladd ei wrthwynebwyr, a dywed Gwallter Map, storïwr o Henffordd, iddo ateb "Na soniwch am ladd. Nid wyf ond yn pylu cyrn epil Cymru rhag iddynt glwyfo eu mam". Enynnodd ei weithredoedd lid canghennau eraill o frenhinlin Rhodri Mawr, a chreu hefyd ofn a dicter ymhlith y Saeson , oherwydd Gruffudd oedd y rheolwr Cymreig cyntaf ers Cadwallon â'r gallu i ymyrryd ym materion Lloegr.[3]

Yn 1063 ymosodwyd arno gan fyddin dan arweiniad Harold Godwinson. Erlidwyd ef o fan i fan, ac yn rhywle yn Eryri, ar 5 Awst 1063, fe'i lladdwyd. Dywed y Brut mai un o'i wŷr ei hun a'i lladdodd. a dehongliad J.E. Lloyd o'r cofnod yw mai drwy frad y daeth diwedd Gruffudd ap Llywelyn; Yn ôl Cronicl Ulster, Cynan, tad Gruffudd ap Cynan a mab Iago ab Idwal (a laddwyd gan Ruffudd yn 1039) oedd y dyn a gyflawnodd y weithred.[4] Anfonwyd pen Gruffudd i Harold. Rhannwyd ei deyrnas ymhlith nifer o olynwyr. Nid oes sail hanesyddol o gwbl i hanesyn Iolo Morganwg sy'n honni mai "Madog Min, Esgob Bangor" a gyflawnodd y frad.

Yn ôl Llyfr Dydd y Farn, roedd gan Gruffudd ap Llywelyn fardd o'r enw Berddig yn ei lys.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Davies, John; Hanes Cymru, td 97, Penguin 1990.
  2. Davies, John; Hanes Cymru, td 97-98, Penguin 1990.
  3. 3.0 3.1 Davies, John; Hanes Cymru, td 98, Penguin 1990.
  4. Davies, John; Hanes Cymru, td 99, Penguin 1990.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Gwynedd Pierce, 'Gruffudd ap Llywelyn', yn Ein Tywysogion, gol. Gwynedd Pierce (Plaid Cymru, 1954).
Rhagflaenydd:
Iago ab Idwal ap Meurig
Brenin Gwynedd
10391063
Olynydd:
Bleddyn ap Cynfyn
Rhagflaenydd:
Iago ab Idwal ap Meurig
Brenin Powys
10391063
Olynydd:
Bleddyn ap Cynfyn
Rhagflaenydd:
Hywel ab Edwin
Hawlydd coron Deheubarth
10431047
Olynydd:
Ildwyd y teitl i
Gruffudd ap Rhydderch
Rhagflaenydd:
Meurig ap Hywel
Brenin Gwent
10551063
Olynydd:
Cadwgan ap Meurig
Rhagflaenydd:
Gruffudd ap Rhydderch
Brenin Morgannwg
10551063
Olynydd:
Cadwgan ap Meurig
Rhagflaenydd:
Gruffudd ap Rhydderch
Brenin Deheubarth
10551063
Olynydd:
Maredudd ab Owain ab Edwin