Gruffudd ap Cynan ab Owain

Oddi ar Wicipedia
Gruffudd ap Cynan ab Owain
GanwydMeirionnydd Edit this on Wikidata
Bu farw1200 Edit this on Wikidata
Abaty Aberconwy Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
TadCynan ab Owain Gwynedd Edit this on Wikidata

Gruffudd ap Cynan ab Owain neu Gruffudd ap Cynan ab Owain Gwynedd (m. 1200), oedd arglwydd cantrefi Meirionnydd, Ardudwy a Llŷn (gyda'i frawd Maredudd ap Cynan ab Owain). Roedd yn fab i'r tywysog Cynan ab Owain Gwynedd.

Yn 1175 llwyddodd y ddau frawd i adennill eu tiriogaeth deuluol, sef cyfran eu tad, Cynan, ar ôl gorchfygu eu hewythr Dafydd ab Owain Gwynedd wedi marwolaeth eu tad yn 1174.

Yn y 1170au gwrthsafasant ymosodiadau ar eu tir gan yr Arglwydd Rhys, tywysog Deheubarth. Ymladdodd y ddau yn erbyn Rhodri ab Owain Gwynedd yn y 1190au cynnar ac erbyn 1194 roeddent yn gynghreiriaid i Lywelyn ab Iorwerth pan drechodd Dafydd ab Owain Gwynedd ym Mrwydr Aberconwy.

Bu farw Gruffudd ap Cynan yn Abaty Aberconwy yn y flwyddyn 1200, yn ôl cofnod ym Mrut y Tywysogion, efallai ar ôl cymryd abid mynach (awgrym arall yw iddo gael ei orfodi i ymddeol yno oherwydd ei gweryla â Llywelyn Fawr). Canodd y bardd Gruffudd ap Gwrgenau ei farwnad.