Hywel ab Owain Gwynedd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cofeb i Hywel ab Owain Gwynedd ar Draeth Coch, Ynys Môn, ger safle dybiedig Brwydr Pentraeth.

Tywysog a bardd Cymreig oedd Hywel ab Owain Gwynedd (bu farw 1170).[1] Roedd yn fab gordderch i Owain Gwynedd, tywysog Gwynedd, a Gwyddeles o'r enw Pyfog, ac fe gyfeirir ato weithiau fel Hywel ap Gwyddeles. Roedd Gwerful Goch yn nith iddo trwy ei frawd Cynan.

Bywgraffiad[golygu]

Yn 1143 yr oedd gan Cadwaladr, brawd Owain Gwynedd, ran yn llofruddiaeth Anarawd ap Gruffudd o Ddeheubarth. Ymateb Owain oedd gyrru Hywel i gymeryd ei diroedd yng ngogledd Ceredigion oddi ar ei ewythr. Gwnaeth Hywel hynny, gan oresgyn a llosgi castell Aberystwyth. Yn 1147 gyrrwyd Cadwaladr o Feirionnydd gan Hywel a'i frawd Cynan, gan oresgyn a llosgi ei gastell yng Nghynfael.[2]

Yn 1159 ymgynghreiriodd Hywel â rhai o arglwyddi Normanaidd y de yn erbyn yr Arglwydd Rhys.[3]

Ar farwolaeth Owain Gwynedd yn 1170, bu brwydro rhwng ei feibion am arglwyddiaeth Gwynedd. Gorfodwyd Hywel i ffoi i Iwerddon gan ei hanner-brodyr Dafydd ab Owain Gwynedd a Rhodri. Dychwelodd yr un flwyddyn gyda byddin o Iwerddon, ond trechwyd ef a'i ladd gan lu Dafydd a Rhodri mewn brwydr ger Pentraeth ym Môn.[4]

Cerddi[golygu]

Yr oedd Hywel yn fardd galluog, ac mae wyth o'i gerddi wedi eu cadw. Fe'i cofir yn bennaf fel bardd serch a natur. Yn wahanol i eraill o Feirdd y Tywysogion nid oedd yn fardd llys ac felly roedd yn mwynhau'r rhyddid i ganu ar bynciau amrywiol mewn cywair mwy personol.[5]

Yr enwocaf o'i gerddi, mae'n debyg, yw 'Gorhoffedd Hywel ab Owain Gwynedd' lle mae'n canu clodydd Gwynedd, ei brydferthwch naturiol a phrydferthwch ei wragedd. Canodd yn ogystal bump cerdd serch i ferched anhysbys; cerddi sydd yn rhagflaenu'r canu serch telynegol a welir yng ngwaith y cywyddwyr, fel Dafydd ap Gwilym, yn y 14eg ganrif. Mae'n bosibl fod barddoniaeth Ffrangeg y cyfnod, yn arbennig gwaith y Trwbadwriaid, wedi dylanwadu ar Hywel. Mae ganddo hefyd ddwy gerdd arwrol sy'n dathlu buddugoliaethau Gwynedd yn erbyn lluoedd brenin Lloegr (Harri II efallai).[6]

Llyfryddiaeth[golygu]

Cefndir hanesyddol[golygu]

  • R.R. Davies, The Age of Conquest[:] Wales 1063-1415 (Rhydychen, 1991)

Gwaith barddonol[golygu]

  • Kathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994). Y golygiad safonol o destunau barddonol Hywel, yng Nghyfres Beirdd y Tywysogion.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Gwaith Llywelyn Fardd I ac eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994).
  2. R.R. Davies, The Age of Conquest[:] Wales 1063-1415 (Rhydychen, 1991).
  3. R.R. Davies, The Age of Conquest[:] Wales 1063-1415 (Rhydychen, 1991).
  4. R.R. Davies, The Age of Conquest[:] Wales 1063-1415 (Rhydychen, 1991).
  5. Gwaith Llywelyn Fardd I ac eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994).
  6. Gwaith Llywelyn Fardd I ac eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Caerdydd, 1994).



Beirdd y Tywysogion Y Ddraig Goch
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgon | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgon Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Phylip Brydydd | Seisyll Bryffwrch