Castell Deudraeth

Oddi ar Wicipedia
Castell Deudraeth
Mathcastell, gwesty, cestyll y Tywysogion Cymreig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadPenrhyndeudraeth Edit this on Wikidata
SirGwynedd
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr53 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.918361°N 4.095243°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Un o gestyll cynnar tywysogion Gwynedd yw Castell Deudraeth (enw arall arno yw Castell Aber Iâ). Fel mae'r enw yn awgrymu, mae'n sefyll ar y penrhyn isel rhwng y ddau draeth, Y Traeth Mawr a'r Traeth Bach, lle rhed Afon Glaslyn ac Afon Dwyryd i Fae Tremadog, yng Ngwynedd.

Does dim byd llawer o'r castell yn sefyll erbyn heddiw. Cyfyeirir Gerallt Gymro ato yn ei lyfr Hanes y Daith Trwy Gymru (1188). Roedd y castell newydd ei godi ac yn perthyn i 'feibion Cynan', ynghyd â Chastell Carn Fadryn dros y bae yn Llŷn. Gruffudd a Maredudd, meibion Cynan ab Owain Gwynedd oedd y 'meibion' hynny.

Castell mwnt a beili ydyw, fel Castell Prysor ger Trawsfynydd. Fel yn achos y castell hwnnw codwyd y mwnt ar ben talpen o graig naturiol. Bu tŵr carreg ar ben y mwnt ond diflannodd hwnnw tua 1860 pan gafodd ei ddymchwel gan y sgweier lleol am ei fod yn denu ymwelwyr. Y cwbl sy'n weddill rwan yw adfail mur uwchlaw ffos ar wyneb y gogledd. Mewn adroddiad gan ymwelydd cyn iddo gael ei dynnu i lawr dywedir ei fod yn dŵr lled-grwn tua 10-12 troedfedd o led ar un ochr adeilad bychan arall.

Mae'r castell ar dir Portmeirion, i'r de o Benrhyndeudraeth, ac yn agored i ymwelwyr. Bu'r Castell yn gartref i'r Aelodau Seneddol Rhyddfrydol dros etholaeth Meirionnydd David Williams a'i fab Syr Arthur Osmond Williams.

Lluniau John Thomas (tua 1887)[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Roger Avent, Cestyll Tywysogion Gwynedd (Caerdydd, 1983)
  • Paul R. Davis, Castles of the Welsh Princes (Abertawe, 1988)