Augustus John

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Arlunydd o Ddinbych-y-Pysgod, Sir Benfro, oedd Augustus John (4 Ionawr, 1878 - 31 Hydref, 1961), ac yr oedd yn frawd i Gwen John. O ganlyniad i ddylanwad James Dickson Innes o Lanelli aeth ar daith arlunio i ogledd Cymru, a daeth i sylweddoli posibiliadau paentio tirwedd panoramig y wlad. Aeth ymlaen yn ddiweddarach, wedi marwolaeth Innes, i baentio portreadau. Mae'r portreadau yn arwyddocaol yn arbennig oherwydd eu bont yn rhoi bywyd a chymeriad i'r gwrthrychau.

Ei wraig gyntaf oedd Ida Nettleship (1877-1907), a'i ail wraig oedd Dorothy "Dorelia" McNeill. Roedd Evelyn St. Croix Rose Fleming yn gariad iddo ac Amaryllis Fleming yn ferch gordderch iddo. Roedd John yn hoff iawn o Ffrainc a noethlymuna.

Roedd ei gysylltiad gyda'r Sipsiwn yn un arbennig iawn ac roedd yn bresenol yn angladd y Dr. John Samson (a elwid yn 'Romano Rai' gan y sipsiwn) ar gopa'r Foel Goch ger Llangwm, Sir Conwy yn Nhachwedd 1931 i sŵn telynau ac ambell ffidil.

StubWales.png Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill