Dinas, Llŷn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref bychan yn Llŷn, Gwynedd yw Dinas. Saif yn y bryniau tua 5 milltir i'r de-orllewin o Nefyn, ar y lôn i Sarn Mellteyrn wrth droed Carn Fadryn (1,217').

Ystyr gynnar y gair dinas oedd "caer" neu "amddiffynfa", ac mae'n bosibl y daw'r enw o'r ffaith fod bryngaer cynhanesyddol a chastell canoloesol ar ben copa Carn Fadryn ger y pentref.

Mae pentrefi cyfagos yn cynnwys Tudweiliog i'r gorllewin, ger yr arfordir.

Treuliodd y llenor Methodistaidd Robert Jones, Rhoslan sawl blwyddyn yn byw yn Ninas.


WalesGwynedd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato