Pennal
Cyfesurynnau: 52°35′08″N 3°55′16″W / 52.58566°N 3.9211°W
| Pennal | |
|
|
|
| Cyfeirnod grid yr AO | SH699003 |
|---|---|
| Prif ardal | Gwynedd |
| Sir seremonïol | Gwynedd |
| Gwlad | Cymru |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | Machynlleth |
| Rhanbarth cod post | SY20 |
| Cod deialu | 01654 |
| Yr Heddlu | Gogledd Cymru |
| Tân | Gogledd Cymru |
| Ambiwlans | Cymru |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Cymru |
| Senedd y DU | Meirionnydd Nant Conwy |
| Cynulliad Cymru | Dwyfor Meirionnydd |
| Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Gwynedd | |
Pentref a chymuned yn ne Gwynedd yw Pennal. Saif ar y briffordd A493 rhwng Tywyn a Machynlleth, ac ar lan ogleddol Afon Dyfi. Mae gan Pennal nifer o gysylltiadau hanesyddol.
Cynnwys |
Hanes [golygu]
Caer Rufeinig Pennal [golygu]
Yr oedd ffordd Rufeinig Sarn Helen yn mynd heibio'r fan, ac yr oedd caer Rufeinig fechan yma, efallai yn gwarchod man croesi Afon Dyfi. Ni ellir gweld lawer o weddillion y gaer, mae rhan ohoni wedi ei gorchuddio gan dŷ Cefn Caer i'r de-ddwyrain o'r pentref, yn nes i'r afon. Roedd y gaer yn cynnwys 12 acer o dir, sef tua 670 troedfedd wrth 505 troedfedd, wedi ei chodi ar ben caer gynharach o 4.38 acer. Cafwyd arian bath o gyfnod Titus a Domitian ar y safle. Y darganfyddiad mwyaf diddorol oedd teil lleng Rufeinig sy'n darllen LEG II AVG ANTO(ninia), sy'n perthyn i'r cyfnod 212-222 efallai.
Yr Oesoedd Canol [golygu]
Saif Castell Tomen-las, sef hen domen amddiffynol o'r Oesoedd Canol yng nghanol y pentref.
Yn ôl traddodiad, merch o Bennal oedd Lleucu Llwyd, cariad y bardd Llywelyn Goch ap Meurig Hen a thestun un o'r marwnadau mwyaf grymus a chofiadwy yn yr iaith Gymraeg.
Ym Mhennal y galwodd Owain Glyndŵr gyfarfod yn Mawrth 1406 ac ysgrifennu llythyr i frenin Ffrainc a adwaenir fel "Llythyr Pennal" ac sy'n ffurfio rhan o Bolisi Pennal. Roedd y llythyr yn amlinellu cynlluniau Glyndŵr ar gyfer Cymru annibynnol. Dychwelwyd y llythyr i Gymru o Ffrainc am gyfnod yn 2000, ar gyfer arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac mae ymgyrch i geisio ei gael yn ôl i Gymru yn barhaol. Mae gardd goffa i dywysogion Cymru yn y pentref.
Cyfnod diweddar [golygu]
Yn nechrau'r 19eg ganrif yr oedd Pennal o bwysigrwydd fel porthladd ar gyfer chwareli llechi Corris, Aberllefenni ac Abergynolwyn. Roedd y llechi'n cael eu cludo o'r chwareli ar gefn ceffylau i'w llwytho i gychod ar yr afon. Daeth hyn i ben pan adeiladwyd Rheilffordd Corris i Fachynlleth a Rheilffordd Talyllyn i Dywyn.
Cyfrifiad 2011 [golygu]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Dolenni allanol [golygu]
- Llythyr Pennal o wefan Cymdeithas Owain Glyndŵr
- Cefn Caer Tŷ Neuadd Canoloesol - Preswylfa Achlysurol Owain Glyndŵr
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Abererch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abermaw · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Y Bala · Bangor · Beddgelert · Bethania · Bethel · Bethesda · Betws Garmon · Blaenau Ffestiniog · Boduan · Bontddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Caernarfon · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Cricieth · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolgellau · Dolbenmaen · Dyffryn Ardudwy · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Frongoch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Harlech · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywair · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Nefyn · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhyndeudraeth · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Penygroes · Pistyll · Pontllyfni · Porthmadog · Portmeirion · Prenteg · Pwllheli · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhostryfan · Rhyd · Rhyd-Ddu · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Talysarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tregarth · Tremadog · Tudweiliog · Tywyn · Waunfawr