Aberdesach
Pentref bychan ar arfordir gogleddol Gwynedd yw Aberdesach. Cyfeirnod OS: SH 42682 51369. Saif ar ffordd yr A499 o Gaernarfon i Bwllheli, rhwng Pontllyfni a Chlynnog Fawr. Mae Afon Desach yn tarddu gerllaw Bwlch Derwin uwchben y pentref ac yn cyrraedd y môr ger rhan ogleddol y pentref. Ystyrir y pentref yn rhan o Ddyffryn Nantlle.
Gellir gweld nifer o ffermdai mawr yn yr ardal sy'n tystio i ddylanwad Stâd Glynllifon yn yr ardal hon. Mae adeiladau'r pentref ei hun yn weddol ddiweddar, a nifer ohonynt yn dai haf. Cysylltir "Penarth" gerllaw Aberdesach â "Pennardd" ym mhedwaredd cainc y Mabinogi, chwedl Math fab Mathonwy. Cysylltiad arall â'r chwedl hon yw Maen Dylan gerllaw Trwyn Maen Dylan, rhwng Aberdesach a Phontllyfni.
Mae traeth bychan a maes parcio yn Aberdesach, sydd hefyd o ddiddordeb adaryddol fel y lle gorau yng Nghymru i weld y Trochydd Mawr yn y gaeaf, yn ôl y sôn.
Dolenni allanol [golygu]
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Abererch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abermaw · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Y Bala · Bangor · Beddgelert · Bethania · Bethel · Bethesda · Betws Garmon · Blaenau Ffestiniog · Boduan · Bontddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Caernarfon · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Cricieth · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolgellau · Dolbenmaen · Dyffryn Ardudwy · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Frongoch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Harlech · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywair · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Nefyn · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhyndeudraeth · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Penygroes · Pistyll · Pontllyfni · Porthmadog · Portmeirion · Prenteg · Pwllheli · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhostryfan · Rhyd · Rhyd-Ddu · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Talysarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tregarth · Tremadog · Tudweiliog · Tywyn · Waunfawr