Garreg, Gwynedd

Oddi ar Wicipedia
Garreg
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.95531°N 4.06803°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH613416 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Pentref bychan yng nghymuned Llanfrothen, Gwynedd, Cymru, yw Garreg[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Fe'i lleolir ar groesffordd yr A4085 a'r B4410 tua milltir i'r gorllewin o bentref Llanfrothen a thua 3 milltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Porthmadog.

Gorwedd Garreg ar ymyl y Traeth Mawr. Mae'r B4410 yn ei gysylltu â pentref bychan Prenteg i'r gorllewin, dros Bont Croesor sy'n dwyn y ffordd dros afon Glaslyn, ac â Rhyd a Maentwrog i'r dwyrain. Mae'r A4085 yn ei gysylltu â Phont Aberglaslyn a'r briffordd i Feddgelert i'r gogledd a gyda Penrhyndeudraeth i'r de.

Un o atyniadau ardal Garreg yw Plas Brondanw, sy'n enghraifft adnabyddus o waith pensaernïol Clough Williams-Ellis. Codwyd ffug gastell bychan iddo yng Ngarreg gan y Gwarchodlu Cymreig yn 1915 fel anrheg priodas iddo a'i briod Anabel Strachley.

Mae'r rhan fwyaf o'r pentref yn gorwedd o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri

Ffug gastell Garreg

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 19 Ionawr 2022
Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato