Tal-y-bont, Abermaw

Oddi ar Wicipedia
Tal-y-bont
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDyffryn Ardudwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.7717°N 4.096°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH587214 Edit this on Wikidata
Cod postLL43 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map
Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Tal-y-bont (gwahaniaethu).

Pentref i'r gogledd o Abermaw, Gwynedd, ydy Tal-y-bont. Saif i'r gorllewin o'r ffordd A496 i'r de o Llanddwywe. Mae canol y pentref tua 400 medr i'r de o Afon Ysgethin, a 400 medr i'r dwyrain o arfordir Bae Ceredigion.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Ceir yno orsaf Rheilffordd y Cambrian a sawl safle carafan, siop pentref, tafarn yr Ysgethin Inn a bwyty Tony's Restaurant. Cynhelir "Diwrnod Hwyl Dyffryn a Thal-y-bont" yn flynyddol ar y Sul olaf o Orffennaf.[3]

Hanes[golygu | golygu cod]

Bu llongddrylliad ar greigiau tanddwr peryglus Sarn Badrig ger Tal-y-bont tua 1702. Suddodd llong fasnach a oedd yn cludo llwyth o farmor o Carerra, yr Eidal. Roedd yn llong arfog, gyda 18 o brif ganonau, 8 canon haearn bwrw llai a 10 canon haearn gyr. Mae’r llong ddrylliedig wedi cael ei datgloddio yn rhannol gan ddatgelu ei chloch a nifer fawr o arteffactau morlywio a domestig.[4] Trowyd un lwmp o farmor yn gerflu i gofio'r digwyddiad a gellir ei weld ar y prom yn y Bermo.

Pobl nodedig o'r ardal[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato