Dinas Dinlle

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pentre Dinas Dinlle a'r traeth
Bryngaer Dinas Dinlle o'r de

Pentref bychan yng ngogledd Gwynedd yw Dinas Dinlle (cyfeiriad grid SH4356). Saif ar lan Bae Caernarfon i'r de o Abermenai, tua 5 milltir i'r de-orllewin o dref Caernarfon. Mae ym mhlwyf Llandwrog. Mae traeth Morfa Dinlle a'i dywod braf yn boblogaidd gan bobl leol ac ymwelwyr.

Enwir y pentref ar ôl bryngaer Dinas Dinlle ar draeth Morfa Dinlle gerllaw. Mae'n gaer arfordirol o bridd a'i ochr orllewinol wedi'i hysu i ffwrdd gan y môr erbyn hyn. Codwyd dau glawdd anferth o gwmpas y bryn gan yr adeiladwyr. Tybir ei fod yn perthyn i ail gyfnod Oes yr Haearn (Oes yr Haearn B). Cafwyd gwrthrychau ynddi sy'n dyddio i'r 2ail ganrif a'r 3edd ganrif, sy'n dangos fod pobl yn dal i fyw yno yng nghyfnod y Rhufeiniaid.

Awyrlun o'r gaer yn Ninas Dinlle.

Mae'r gaer yn enwog yn llenyddiaeth Gymraeg a diwylliant Cymru oherwydd ei chysylltiad â Phedair Cainc y Mabinogi. Yn y bedwaredd gainc, Math fab Mathonwy, mae'r arwr Lleu ('Lleu Llaw Gyffes') yn cael ei feithrin yn Ninas Dinlle ('Dinas Dinllef' yw'r sillafiad a geir yn y testun) gan y dewin Gwydion ap Don i farchogaeth a dwyn arfau:

'Yna y daethant [h]wy parth a Dinas Dinllef. Ac yna meithrin Lleu Llaw Gyffes yny allwys (nes y gallai) marchogaeth pob march ac yny oedd gwbl o bryd, a thwf a meint.'[1]

'Dinas Dinllef' sydd gan y copïydd yn y llawysgrif, sef 'Dinas Dinlleu', o 'Dinlleu', sef 'Caer Lleu' ('din' = caer). 'Dinas Dinlla' yw'r enw ar lafar yn y cylch.

Yn 'Englynion y Beddau' yn Llyfr Du Caerfyrddin dywedir i Wydion gael ei gladdu yn Ninas Dinlle:

'Bedd Gwydion ap Don
ym Morfa Dinlleu
i-dan faen defeillion.'[2]

Yn y môr gyferbyn â Dinas Dinlle ceir Caer Arianrhod, cartref arallfydol Arianrhod yn y Mabinogi.

Cyfeiriadau [golygu]

  1. Ifor Williams (gol.), Pedair Cainc y Mabinogi (Caerdydd, 1930), tud. 81. Diweddarwyd yr orgraff fymryn.
  2. Dyfynnir gan Ifor Williams, op. cit.


Bryngaerau Cymru Caer Seion 01.JPG
Yr Alltwen | Braich-y-Dinas | Breiddin | Bryn Euryn | Bryn Myrddin | Bwrdd Arthur | Caerau Gaer | Caer Bach | Caer Caradog | Caer Drewyn | Caer Fawr (Llangadog) | Caer Gwrtheyrn | Caer Seion | Caer y Twr | Carn Fadryn | Castell Cawr | Castell Degannwy | Castell Dinas | Castell Henllys | Castell Nadolig | Castell Odo | Castell Olwen | Castell Tinboeth | Craig yr Aderyn | Coed Llanmelin | Craig Rhiwarth | Crug Hywel | Darowen | Dinas Brân | Dinas Dinlle | Dinas Emrys | Dinas Mawr | Dinas Powys | Dinas Tŷ Du | Dinorben | Dinorwig | Foel Drygarn | Ffridd Faldwyn | Gaer Fawr | Garn Boduan | Garn Saethon | Llanymynech | Moel Arthur | Moel Fenlli | Moel Goedog | Moel Hiraddug | Moel y Gaer (Bodfari) | Moel y Gaer (Llanbedr) | Moel y Gaer (Llandysilio) | Moel y Gaer (Rhosesmor) | Mynydd y Gaer | Pen Dinas (Aberystwyth) | Pen Dinas (Mynydd Gorddu) | Penycloddiau | Pen y Corddyn | Pen-y-gaer (Llanaelhaearn) | Pen-y-gaer (Llanbedr-y-cennin) | Tre'r Ceiri | Twmbarlwm