Caer Arianrhod

Oddi ar Wicipedia
Caer Arianrhod
Mathynys Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.06464°N 4.343001°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH431545 Edit this on Wikidata
Map

Ynys fechan greigiog oddi ar arfordir Gwynedd, Cymru, ydy Caer Arianrhod. Saif tua hanner y ffordd rhwng Pontllyfni a Dinas Dinlle, a thua 1 km o'r lan. Mae'r ynys hon yn ymddangos pan fydd y llanw'n mynd allan yn unig. Er i rai honni eu bod wedi gweld ffurfiant waliau ac ati yno, y gred gyffredinol yw bod y safle'n gwbl naturiol.

Cysylltir yr enw â chwedl Math fab Mathonwy, sef y bedwaredd gainc o'r Mabinogi. Yn y chwedl hon mae gan Arianrhod gaer ac mae'r dewin Gwydion fab Dôn yn ymweld â'r gaer mewn llong, gan ddwyn ei nai Lleu Llaw Gyffes, mab Arianrhod, i gyfarfod ei fam yno.

Mae "Caer Arianrhod" hefyd yn cael ei ddweud am y stribed gwyn o sêr a welir fin nos ar draws yr awyr, sef y Llwybr Llaethog.

Roedd gan y grŵp Bando (prif leisydd: Caryl Parry Jones) gân yn dwyn y teitl "Nos yng Nghaer Arianrhod" ar eu halbwm Shampŵ.