Llanfihangel-y-traethau
Pentref bychan a phlwyf yn ardal Ardudwy, de Gwynedd, yw Llanfihangel-y-traethau (cyfeiriad grid SH594353). Mae'r pentref ei hun yn cael ei nodi ar rai mapiau fel "Ynys" yn hytrach na Llanfihangel-y-traethau.
Gorwedd y pentref, sy'n gymuned wasgaredig, ar ochr dwyreiniol y bryniau isel i'r gogledd o wastadedd Morfa Harlech, ar lan y Traeth Bach ac aber Afon Dwyryd, tua tair milltir a hanner i'r gogledd o Harlech. Rhed ffordd yr A496 trwy'r pentref ac mae gorsaf aros ar Reilffordd Arfordir Cymru Tŷ Gwyn (Glan-y-wern) tua chwarter milltir i ffwrdd.
Yn yr Oesoedd Canol Diweddar roedd plwyf Llanfihangel-y-traethau yn rhan o gwmwd Ardudwy Uwch Artro ac yn cynnwys Y Lasynys, cartref Ellis Wynne, awdur Gweledigaethau'r Bardd Cwsg, yn yr 17eg ganrif. Mae'n ymestyn o lan Bae Ceredigion i fyny i ragfryniau'r Rhinogau.
Mae Eglwys Llanfihangel-y-traethau yn hen ond mae'r adeilad heddiw yn gymharol newydd. Roedd yn un o eglwysi'r pererinion ar eu ffordd i Ynys Enlli. Yn ôl traddodiad lleol a gofnodir ar garreg (cymharol ddiweddar) yn yr eglwys, codwyd yr eglwys gan Wleder fam Hoedliw yn oes Owain Gwynedd, ond diau fod llan yno cyn hynny.
Claddwyd y gyfrinwraig Mari'r Fantell Wen (1735? - 1789) ym mynwent yr eglwys.
Ffynonellau [golygu]
- T. I. Ellis, Crwydro Meirionnydd (Cyfres Crwydro Cymru, 1954)
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Abererch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abermaw · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Y Bala · Bangor · Beddgelert · Bethania · Bethel · Bethesda · Betws Garmon · Blaenau Ffestiniog · Boduan · Bontddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Caernarfon · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Cricieth · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolgellau · Dolbenmaen · Dyffryn Ardudwy · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Frongoch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Harlech · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywair · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Nefyn · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhyndeudraeth · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Penygroes · Pistyll · Pontllyfni · Porthmadog · Portmeirion · Prenteg · Pwllheli · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhostryfan · Rhyd · Rhyd-Ddu · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Talysarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tregarth · Tremadog · Tudweiliog · Tywyn · Waunfawr