Esgobaeth Bangor

Oddi ar Wicipedia
Esgobaeth Bangor
Mathesgobaeth Anglicanaidd Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1558 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.23°N 4.13°W Edit this on Wikidata
Map
Crefydd/EnwadY Cymundeb Anglicanaidd Edit this on Wikidata

Esgobaeth Bangor yw'r hynaf o chwech esgobaeth Anglicanaidd Cymru. Gorwedd tiriogaeth yr esgobaeth yng ngogledd-orllewin y wlad, gan ymestyn o Ynys Môn i ran o ogledd Powys ; mae'n cyfateb yn fras i diriogaeth teyrnas Gwynedd yn yr Oesoedd Canol. Canolfan yr esgobaeth yw cadeirlan Bangor, sedd esgob Bangor, lle ceir Eglwys Gadeiriol Bangor.

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd clas ac eglwys ar safle Bangor heddiw gan Deiniol Sant a'i ddilynwyr tua'r flwyddyn 525. Codwyd clawdd gwiail (bangor) o amgylch y clas, a hynny sy'n cyfrif am enw'r ddinas heddiw. Yn ôl yr Annales Cambriae, yn y flwyddyn 546 gwahoddodd Maelgwn Gwynedd, brenin gogledd Cymru, Sant Deiniol i fod yn esgob ar ei diriogaeth, ac felly y creuwyd esgobaeth hynaf Cymru a gwledydd eraill Prydain. Olynywyd Deiniol gan ragor o seintiau fel Cybi a Seiriol ym Môn a Cadfan yn Nhywyn.

Arfbais Esgobaeth Bangor

Gyda'i chadeirlan ym 'Mangor Fawr yn Arfon' (Bangor), chwareai'r esgobaeth a'i hesgobion ran bwysig yn hanes Gwynedd yn yr Oesoedd Canol. Daeth newidiadau gyda rheolaeth y Normaniaid ar Dyddewi a chynydd dylanwad Eglwys Rufain. Yn 1143 collodd Bangor ran helaeth ei thiriogaeth yng ngogledd-ddwyrain Cymru pan adferwyd Esgobaeth Llanelwy ac ehangu ei thiriogaeth. Ond arosodd dwy ynys o dir dan reolaeth Bangor, sef cantref Dyffryn Clwyd yn y Berfeddwlad a chantref Arwystli yn nheyrnas Powys.

Yn ddiweddarach collwyd Dyffryn Clwyd i esgobaeth Llanelwy, ond cadwodd Bangor Arwystli ac ychwanegwyd Cyfeiliog a Mawddwy fel bod yr esgobaeth yn ffurfio uned gyfan unwaith eto, ond heb y gogledd-ddwyrain.

Rhaniadau[golygu | golygu cod]

Archddiaconiaeth Bangor[golygu | golygu cod]

Mae archddiaconiaeth Bangor yn cynnwys archddiaconiaethau canoloesol Bangor a Môn. Mae'n ymrannu'n saith diaconiaeth :

Archddiaconiaeth Meirionnydd[golygu | golygu cod]

Mae tiriogaeth archddiaconiaeth Meirionnydd yn cyfateb yn fras i'r hen Sir Feirionnydd gyda Llŷn, Eifionydd ac Arwystli (Powys). Mae'n ymrannu'n bum diaconiaeth :

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]