Ardudwy Uwch Artro

Oddi ar Wicipedia
Ardudwy Uwch Artro
Mathcwmwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.86°N 4.105°W Edit this on Wikidata
Map

Cwmwd canoloesol ar lan ogleddol Bae Ceredigion yng ngogledd-orllewin Cymru oedd Ardudwy Uwch Artro. Gydag Ardudwy Is Artro, cafodd ei ffurfio allan o hen gantref Ardudwy.

Hanes[golygu | golygu cod]

Castell Harlech

Dynodai Afon Artro y ffin rhwng Uwch Artro ac Is Artro i'r de. Y ffin naturiol yn y gogledd oedd y Traeth Mawr, Nant Gwynant a'r Moelwynion. Yn ogystal ag Is Artro, ffiniai'r cwmwd ag Eifionydd, darn deheuol o Arfon Is Gwyrfai (cantref Arfon) a Nant Conwy (cantref Arllechwedd) yn y gogledd, Uwch Tryweryn (cantref Penllyn) i'r dwyrain, a darn o gwmwd Tal-y-bont (cantref Meirionnydd) yn y de-ddwyrain.[1]

Cwmwd mynyddig, gyda bryniau creigiog y Rhinogydd yn ei ganol, oedd Uwch Artro. Harlech, sedd frenhinol Bendigeidfran yn y Mabinogi, oedd prif ganolfan y cwmwd.[1] Roedd y llannau yn cynnwys Llanfrothen, Maentwrog, Llandanwg a Llanfihangel-y-traethau. Roedd y plasdai yn niferus ac yn cynnwys Cynfal a Maesygarnedd. Yn ogystal â Chastell Harlech roedd yna gestyll eraill; Castell Prysor, Castell Deudraeth, a chastell mwnt a beili Tomen y Mur, safle hen gaer Rufeinig.

Yn fuan yn ei hanes daeth y diriogaeth yn rhan o Deyrnas Gwynedd a dan awdurdod eglwysig Esgobaeth Bangor. Daeth y cwmwd yn rhan o'r Sir Feirionnydd newydd fel rhan o drefniant Statud Rhuddlan yn 1282.[1] Heddiw mae'n gorwedd yng Ngwynedd.

Plwyfi[golygu | golygu cod]

Erbyn yr Oesoedd Canol Diweddar ceir naw plwyf yn y cwmwd:

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Geraint Bowen (gol.), Atlas Meirionnydd (Y Bala, ail argraffiad, 1975).