Castell Harlech

Oddi ar Wicipedia
Castell Harlech
Mathcastell, safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1283 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Eryri Edit this on Wikidata
Rhan o'r canlynolCestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd Edit this on Wikidata
LleoliadHarlech Edit this on Wikidata
SirHarlech Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd6 ha, 1.7 ha Edit this on Wikidata
Uwch y môr57 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.860004°N 4.109164°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganCadw Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethEdward I, brenin Lloegr Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, rhan o Safle Treftadaeth y Byd, heneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganEdward I, brenin Lloegr Edit this on Wikidata
Manylion
DeunyddTywodfaen Edit this on Wikidata
Dynodwr CadwME044 Edit this on Wikidata
Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Castell canoloesol rhestredig gradd 1 yn Harlech, Gwynedd yw Castell Harlech. Fe’i hadeiladwyd gan Edward I yn ystod ei oresgyniad o Gymru rhwng 1282 a 1289 ar gost gymharol gymedrol o £8,190.[1] Mae'n un o’r pedwar castell consentrig, sef Caernarfon, Biwmares a Chonwy a adeiladwyd yn dilyn lladd Llywelyn ap Gruffydd yn 1282. Cryfder cestyll consentrig oedd y ddau fur, sef y mur allanol a'r mur mewnol. Roedd hwn yn gynllun a fabwysiadwyd yn Ewrop wedi iddo gael ei weld yn y Dwyrain Canol adeg y Croesgadau.

Chwaraeodd y castell ran bwysig yn hanes Cymru yn y canrifoedd dilynol. Yn 1294 gosododd gwrthryfelwyr Madog ap Llywelyn Gastell Harlech dan warchae. Fodd bynnag, derbyniodd y Saeson gyflenwadau o Iwerddon diolch i fynedfa i'r môr yn y castell, a diddymwyd y gwrthryfel. Yn ystod Gwrthryfel Owain Glyndŵr roedd y castell wedi syrthio i ddwylo Glyn Dŵr a daeth yn gartref ac yn bencadlys milwrol iddo am bedair blynedd. Yn 1408 gosododd lluoedd Seisnig, o dan awdurdod y gŵr a gafodd ei goroni yn Harri V yn ddiweddarach, warchae ar y castell. Syrthiodd Harlech yn y pen draw ym mis Chwefror 1409. Roedd y castell hefyd yn ased milwrol pwysig yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau a'r Rhyfel Cartref.

Mae'r castell heddiw yng ngofal Cadw. Fe'i cynhwyswyd ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn 1986, fel rhan o safle Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd.[2]

Hanes[golygu | golygu cod]

Ym Mhedair Cainc y Mabinogi Castell Harlech yw castell Bendigeidfran a'i chwaer Branwen ferch Llŷr, y dduwies y ceir ei hanes yn Ail Gainc y Mabinogi, ond nid oes tystiolaeth archeolegol bod amddiffynfa Gymreig wedi ei hadeiladu ar y safle cyn y castell presennol.[3]

Roedd brenhinoedd Lloegr a thywysogion Cymru wedi ymgiprys am reolaeth dros ogledd Cymru ers y 1070au. Ailgychwynnodd y gwrthdaro yn ystod y 13g, gan arwain Edward I i ymyrryd yng ngogledd Cymru yn 1282 am yr ail waith yn ystod ei deyrnasiad. Aeth Edward I ati i adeiladu ac adnewyddu cyfres o gestyll cadarn fel cadarnleoedd grym a diogelwch. Roedd castell Harlech yn un o saith castell a adeiladwyd ar draws gogledd Cymru fel rhan o’i ‘gylch haearn’ o gestyll. Roedd y rhain yn ganolfannau ar gyfer ei fyddinoedd lle gallai lansio ymosodiadau yn erbyn y Cymry.

Gwarchaeau[golygu | golygu cod]

Y brif fynedfa i Gastell Harlech

Yn 1294, dechreuodd Madog ap Llywelyn wrthryfel yn erbyn y Saeson a ymledodd yn gyflym ar draws Cymru. Gosododd y gwrthryfelwyr Gastell Harlech dan warchae y gaeaf hwnnw. O Iwerddon anfonwyd cyflenwadau ffres dros y môr, a chawsant eu cludo drwy lifddorau Harlech gan ddod â’r gwrthryfel i ben.

Yn ystod Gwrthryfel Owain Glyn Dŵr, erbyn 1403, dim ond llond llaw o gestyll, gan gynnwys Harlech, a lwyddodd i ddal eu tir yn erbyn y gwrthryfelwyr. Doedd dim digon o offer na staff yn y castell i wrthsefyll gwarchae ac mae’r cofnodion yn dangos mai dim ond tair tarian, wyth helmed, chwe gwaywffon, deg pâr o fenig, a phedwar gwn oedd gan y garsiwn. Ar ddiwedd 1404, roedd y castell wedi syrthio i ddwylo Glyn Dŵr a daeth yn gartref ac yn bencadlys milwrol iddo am bedair blynedd. Yn 1408 gosododd lluoedd Seisnig, o dan awdurdod y gŵr a gafodd ei goroni yn Harri V yn ddiweddarach, a’i gadlywydd, Edmund Mortimer, warchae ar y castell. Gwnaed difrod mawr i rannau deheuol a dwyreiniol y waliau allanol gan fagnelau a chanonau. Ar ôl methu â chipio’r castell, cafodd John Talbot ei adael gan Harri i fod yn gyfrifol am y gwarchae ac aeth Harri yn ei flaen i Gastell Aberystwyth. Ar ôl i Mortimer a llawer o’i ddynion farw o flinder, syrthiodd Harlech yn y pen draw ym mis Chwefror 1409.

Yn y 15g, roedd Harlech yn gysylltiedig â chyfres o ryfeloedd cartref, a elwir yn Rhyfeloedd y Rhosynnau, rhwng carfanau gelyniaethus teulu Lancaster a theulu Iorc. Yn 1460, yn dilyn brwydr Northampton, fe wnaeth y Frenhines Marged o Anjou a’i baban, y Tywysog Edward, ffoi i’r castell. Rhwng 1461 ac 1468 roedd yn nwylo cefnogwyr teulu Lancaster, o dan awdurdod Dafydd ap Ieuan. Oherwydd ei amddiffynfeydd naturiol a’r llwybr cyflenwi ar y môr, daliodd castell Harlech ei dir unwaith eto ac, wrth i gestyll eraill syrthio, hwn oedd yr olaf o’r prif gadarnleoedd a oedd yn dal i fod o dan reolaeth teulu Lancaster. Mae'r gân Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech yn cyfeirio at warchae'r adeg honno.

Daeth y castell yn ganolfan ar gyfer eu hymgyrchoedd ar draws y rhanbarth. Ymosododd Syr Richard Tunstall o Gastell Harlech yn 1466 a glaniodd Siaspar Tudur, ewythr Harri Tudur, yno gyda milwyr ychwanegol o Ffrainc yn 1468. Yn sgil dyfodiad Siaspar Tudur gorchmynnodd Edward IV William Herbert i drefnu byddin, o bosibl hyd at 10,000 o ddynion, er mwyn cipio’r castell unwaith ac am byth. Ar ôl mis, ildiodd y garsiwn ar 14 Awst.

Y Rhyfel Cartref[golygu | golygu cod]

Ar ôl dechrau Rhyfel Cartref Lloegr yn 1642, cipiwyd y castell gan luoedd a oedd yn deyrngar i Siarl I. Nid oedd y castell wedi cael ei drwsio yn dilyn gwarchae 1468 ac roedd wedi mynd â’i ben iddo, ac eithrio’r porthdy, a oedd yn cael ei ddefnyddio fel y llys lleol. Yn 1644 penododd Rupert, tywysog y Rhein, y Cyrnol William Owen yn gwnstabl y castell, a rhoddwyd y dasg o drwsio’r gaer i’r Cyrnol Owen. Bu gwarchae hir rhwng mis Mehefin 1646 a mis Mawrth 1647 pan ildiodd y garsiwn o 44 dyn i’r Cadfridog Thomas Mytton. Y castell oedd y gaer frenhinol olaf ar y tir i ildio, gan nodi diwedd cam cyntaf y rhyfel.

Doedd dim angen y castell bellach i sicrhau diogelwch gogledd Cymru ac, i atal y Brenhinwyr rhag ei ddefnyddio eto, gorchmynnodd y Seneddwyr y dylid ei ddinistrio. Ond dim ond yn rhannol y dilynwyd y gorchmynion hyn. Dinistriwyd grisiau’r porthdy a difrodwyd y castell i’r fath raddau fel na ellid ei ddefnyddio, ond ni chafodd ei ddinistrio’n llwyr.

Cafodd cerrig y castell eu defnyddio i godi tai yn y dref.[4]

Dyluniad[golygu | golygu cod]

Cynllun pensaernïol gan CADW o Gastell Harlech

Meistr James o St George yn rhanbarth Safwy (Savoy) oedd yng ngofal y gwaith cynllunio ac adeiladu. Roedd y castell bron â’i gwblhau erbyn diwedd 1289 am tua £8,190, sef tua 10% o’r £80,000 a wariodd Edward ar adeiladu

Cerflun[dolen marw] Y Ddau Frenin gan Ivor Roberts-Jones o flaen y castell.

cestyll yng Nghymru. Adeiladwyd y castell o garreg leol ac roedd o gynllun consentrig, gan gynnwys porthdy enfawr a oedd unwaith yn llety uchel ei statws i gwnstabl y castell ac ymwelwyr pwysig. Ar y pryd roedd y môr yn cyrraedd yn nes o lawer at Harlech ac roedd llifddor â grisiau hir yn arwain i lawr o’r castell at y lan, gan olygu bod modd dod â chyflenwadau i’r castell o’r môr yn ystod gwarchae.

Yn wynebu’r môr, roedd murfylchau Harlech yn ymestyn o wyneb y graig serth. Byddai unrhyw ymosodwr o’r tir yn gyntaf yn gorfod wynebu’r porthdy enfawr gyda dau dŵr. Mae’r môr, fel mynyddoedd Eryri, yn allweddol i leoliad Harlech. Mae waliau mewnol a thyrrau enfawr y gaer yn dal i sefyll i’w huchder llawn. Ar ôl Gwrthryfel Madog ap Llywelyn rhwng 1294 a 95, adeiladwyd amddiffynfeydd ychwanegol o amgylch y llwybr i lawr at y môr. Gwnaed mwy o waith rhwng 1323 a 24, ar ôl rhyfel Despenser, pan gafodd Edward II ei fygwth yn y rhanbarth gan ddau o arglwyddi’r gororau, Roger a Humphrey de Bohun. Gorchmynnodd ei siryf, Syr Gruffydd Llwyd, i ymestyn yr amddiffynfeydd a oedd yn arwain at y porthdy a chodi tyrau ychwanegol.

Oriel Gelf[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Castell Harlech | Cadw". cadw.llyw.cymru. Cyrchwyd 2020-04-28.
  2. "Castles and Town Walls of King Edward in Gwynedd". UNESCO World Heritage Centre. UNESCO. Cyrchwyd 31 Mai 2019.
  3. Taylor, A. J. (Arnold Joseph), 1911-2002. (2007). Harlech castle. Cadw (Organization : Great Britain) (arg. 4th ed). Cardiff: CADW. ISBN 978-1-85760-257-9. OCLC 573129003.CS1 maint: multiple names: authors list (link) CS1 maint: extra text (link)
  4. "Datblygiad Rhyfela, tua 1250 hyd heddiw" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 28 Ebrill 2020.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]