Uwch Tryweryn

Oddi ar Wicipedia
Uwch Tryweryn
Mathcwmwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolPenllyn Edit this on Wikidata
SirTeyrnas Gwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.868782°N 3.669025°W Edit this on Wikidata
Map

Un o ddau gwmwd Cantref Penllyn ym Meirionnydd (de Gwynedd) oedd Uwch Tryweryn.

Gorweddai Uwch Tryweryn yn rhan orllewinol cantref Penllyn gyda'r Afon Tryweryn yn nodi rhan o'r ffin rhyngddo a'r ail gwmwd, Is Tryweryn, gan roi iddo ei enw. Ffiniai ag Is Aled i'r gogledd, Mochnant Uwch Rhaeadr a chwmwd Tal-y-bont (yn cynnwys cwmwd Mawddwy ar ôl 1536) i'r de ac Ardudwy Uwch Artro i'r gorllewin. Canolog i'r cwmwd oedd Llyn Tegid; roedd Caer Gai, maerdy cynnar Penllyn, ar ei lan orllewinol.

Fel gweddill Penllyn, roedd Uwch Tryweryn yn rhan o deyrnas Powys hyd at ddechrau'r 13g, pan gipiwyd Penllyn gan Llywelyn Fawr, Tywysog Gwynedd. Ar ôl goresgyniad 1283 daeth yn rhan o'r Sir Feirionnydd newydd.

Roedd y cwmwd yn cynnwys tri phlwyf:

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Ffynhonnell[golygu | golygu cod]

  • Atlas Meirionnydd, gol. Geraint Bowen (Y Bala, ail argraffiad, 1975)