Castell Prysor

Oddi ar Wicipedia
Castell Prysor
darlun allan o A tour in Wales gan Thomas Pennant (1726-1798)
Mathcastell, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, castell mwnt a beili, cestyll y Tywysogion Cymreig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd12.57 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.914893°N 3.848709°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, heneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwME045 Edit this on Wikidata

Castell mwnt a beili ger Trawsfynydd, Gwynedd, yw Castell Prysor. Mae'n sefyll ar godiad tir ar lan ogleddol Afon Prysor yng Nghwm Prysor, gyda Chraig yr Aderyn (474m) y tu ôl iddo. Yn Oes y Tywysogion roedd yn amddiffyn ffin ddwyreiniol Ardudwy a'r mynediad i dde teyrnas Gwynedd.

Adeiladwaith[golygu | golygu cod]

Codwyd mwnt neu domen y castell ar ben craig naturiol. Fel arfer byddai tomen yn cael ei hadeiladu'n gyflym â phridd gan y Normaniaid, ond cerrig a ddefnyddid yn achos Castell Prysor. Mae hi bron yn sicr o fod yn gastell Cymreig o'r cychwyn cyntaf yn hytrach nag un a gipiwyd o ddwylo'r Normaniaid (byr fu arosiad y Normaniaid yng Ngwynedd y ganrif cyn hynny). Does dim byd llawer i'w gweld o'r adeiladwaith heddiw, ond gwyddys fod gan y mwnt orchudd o gerrig nadd wedi'u gosod â morter. Mae'r gorthwr, cadarnle'r castell, wedi diflannu, ac felly mae'n amhosibl gwybod os oedd o waith pren neu garreg. Ceir olion adeilad hirsgwar yn y beili ac olion dau arall yn ymyl y castell.

Hanes[golygu | golygu cod]

Dim ond un cyfeiriad hanesyddol at y castell sydd ar gael, a hynny'n ddiweddar yn ei oes. Arosodd Edward I o Loegr yno ar 1 Gorffennaf 1284 ac anfon llythyr oddi yno. Mae'n bur debyg fod y castell yn perthyn i ail hanner y 12g. Mae ei adeiladwaith a'r defnydd o graig naturiol yn atgoffa dyn o gestyll Carn Fadryn a Deudraeth. Codwyd y cestyll hynny yn y blynyddoedd ansefydlog ar ôl marwolaeth Owain Gwynedd. Syrthiodd Ardudwy a Meirionnydd i ran Cynan ab Owain Gwynedd ac mae'n bosibl fod y castell wedi'i godi ganddo fo neu ei fab Gruffudd ap Cynan ab Owain Gwynedd.

Mynediad[golygu | golygu cod]

Mae'r castell ar dir preifat yng Nghwm Prysor, tua phedair milltir i'r dwyrain o Drawsfynydd hyd lôn yr A4212 sy'n arwain i Lyn Celyn a'r Bala, gyferbyn i ffermdy Dôl-haidd. O Drawsfynydd mae llwybr yr hen reilffordd o'r Bala i Ffestiniog yn arwain i fyny'r cwm a heibio i'r castell. Rhif grid OS: SH 758 369.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Richard Avent, Cestyll Tywysogion Gwynedd (Caerdydd, 1983)
  • Paul R. Davis, Castles of the Welsh Princes (Abertawe, 1988)