Nant Gwynant

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Nant Gwynant, yn edrych tua'r de-orllewin; Llyn Gwynant yn y canol.
Y Nant yn y gwaelod a'r Wyddfa ar y dde

Mae Nant Gwynant yn ddyffryn mynyddig y Eryri sy'n arwain o Ben-y-Gwryd tua'r de-orllewin cyn belled a Beddgelert. Mae rhan uchaf y dyffryn yn cael ei ffurfio gan Nant Cynnyd, sy'n llifo i mewn i Afon Glaslyn. Wedi llifo trwy Llyn Gwynant, mae'r afon (a elwir hefyd yn "Nant Gwynant") yn mynd heibio pentref bychan Bethania cyn cyrraedd Llyn Dinas. Gan adael o dde-orllewin y llyn, mae'n mynd heibio bryngaer Dinas Emrys ac yn cyrraedd Beddgelert lle mae Afon Colwyn yn ymuno a hi. Mae Yr Wyddfa a'i chriw ar ochr ogleddol y dyffryn, a mynyddoedd y Moelwynion ar yr ochr ddeheuol.

Mae'r briffordd A498 yn dilyn Nant Gwynant o Ben-y-Gwryd i Feddgelert, cyn mynd ymlaen trwy Aberglaslyn i Borthmadog. Rhwng Pen-y-Gwryd a Beddgelrt mae'r ffordd yn disgyn tua 600 troedfedd.

Ceir nifer o henebion diddorol yn Nant Gwynant. Ger Pen-y-Gwryd mae olion gwersyll Rhufeinig; gwesyll dros dro i filwyr yn hytrach na chaer, ac efallai'n dyddio i gyfnod y goncwest Rufeinig. Ychydig yn is i lawr mae Cwm Dyli ar yr ochr ogleddol i'r dyffryn. Ceir nifer o olion cytiau cynhanesyddol yma, a hefyd yr orsaf bwer a adeiladwyd tua chan mlynedd yn ôl i gynhyrchu trydan trwy ddefnyddio'r dŵr sy'n llifo i lawr o Lyn Llydaw. Ychydig yn is i lawr mae Hafod Lwyfog, sy'n dyddio i'r 1540au. Rhwng y ddau lyn mae Hafod-y-Llan, a brynwyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1998; mae Llwybr Watkin i ben yr Wyddfa yn cychwyn yma. Gerllaw Llyn Dinas mae craig o'r enw Carreg yr Eryr a oedd, yn ôl siarter o'r flwyddyn 1198, yn nodi'r fan lle roedd cantrefi Eifionydd, Ardudwy ac Arfon yn cyfarfod. Mae gan Gerallt Gymro stori fod eryr yn arfer eistedd ar y garreg unwaith yr wythnos, yn aros am ryfel rhwng gwŷr y tri chantref. Rhwng y llyn a Beddgelert mae Mwynglawdd Sygn, hen gloddfa copr sydd yn awr wedi ei hagor i'r cyhoedd. Ymhlith enwogion y Nant mae'r dramodydd Meic Povey a dreuliodd ddeng mlynedd gyntaf ei oes yno.

Gweler hefyd[golygu]