Y Traeth Mawr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Traeth Mawr)
Neidio i: llywio, chwilio
Y Traeth Mawr o'r Cob
Trên ar y cob yn croesi'r Traeth

Y Traeth Mawr yw'r tir o ddolydd a chorsydd rhwng Porthmadog a Phenrhyndeudraeth yng Ngwynedd. Rhed Afon Glaslyn drwyddo ar ei ffordd i'r môr. Erbyn heddiw mae'r Traeth Mawr yn dir sych yn bennaf ond cyn dechrau'r 19eg ganrif roedd yn draeth eang o bobtu hen aber Afon Glaslyn ac yn rhwystr mawr (a pheryglus weithiau) i deithwyr. Yn Oes y Tywysogion yr oedd yn dynodi'r ffin rhwng dau gwmwd Cantref Dunoding, sef Eifionydd i'r gogledd ac Ardudwy i'r de. Gelwir yr hyn sy'n weddill o'r hen draeth, i'r de o'r Cob, Y Traeth Bach.

Llenwyd y rhan fwyaf o'r Traeth Mawr â phridd a cherrig fel rhan o gynllun uchelgeisiol William Madocks, sylfeinydd Porthmadog a Thremadog. Cododd Madocks y Cob, clawdd uchel sy'n croesi ceg yr hen aber ac yn cludo Rheilffordd Arfordir Cymru a'r A487 rhwng Porthmadog a Phenrhyndeudraeth.

Cyn i'r Cob gael ei godi roedd aber yr afon yn dechrau ger Pont Aber Glaslyn (mae'r enw'n nodi'r ffaith) pan fyddai'r llanw allan, tua 5 milltir i'r gogledd o'r Cob. Roedd croesi'r Traeth heb dywysydd lleol yn gallu bod yn waith peryglus. Cul a chreigiog oedd y rhimyn o dir wrth droed y Moelwynion ac anaddas i geffylod a cheirt. Ceir sawl cyfeiriad at y Traeth yn llenyddiaeth yr Oesoedd Canol. Croesodd Gerallt Gymro gyda Baldwin, Archesgob Caergaint yn 1188 ar ei daith trwy Gymru.