Morfa Harlech

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Morfa Harlech a'r cyffiniau o gopa Moel Goedog.
Rhai o dywynni Morfa Harlech.

Morfa yn ne Gwynedd yw Morfa Harlech, sy'n gorwedd ar lan Bae Ceredigion ger Harlech yn ardal Ardudwy. Mae rhan o'r morfa yn un o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol Cymru.

Ffurfia Morfa Harlech driongl o dir tua 3 milltir ar draws rhwng y Traeth Bach ar lan Afon Dwyryd i'r gogledd, Bae Ceredigion i'r gorllewin a rhagryniau'r Rhinogydd i'r dwyrain, gyda thref Harlech i'r de a phentref Llanfihangel-y-traethau ar y cwr gogledd-ddwyreiniol. Rhed y briffordd A496 ar hyd yr ymyl dwyreiniol. Ceir traeth hir syth yno gyda nifer o dywynni tywodlyd y tu ôl iddo, sy'n ffurfio'r morfa ei hun. Mae rhannau o'r morfa yn dir amaethyddol.

Lleolir y Gwarchodfa Natur yng nghornel y gogledd-orllewin. Mae'n nodedig am ei flodau gwyllt sy'n cynnwys orchidau prin.

WalesGwynedd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer