Penrhos, Gwynedd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Cynfil Sant, Penrhos.

Plwyf eglwysig a phentref bychan yng Ngwynedd yw Penrhos. Fe'i lleolir ar benrhyn Llŷn ychydig i'r gorllewin o dref Pwllheli ar bwys y briffordd A499.

Yn yr Oesoedd Canol roedd Penrhos yn rhan o gwmwd Cafflogion yng nghantref Llŷn. Un o ganolfannau'r cwmwd oedd plasdy Penyberth a ddaeth yn enwog mewn canlyniad i losgi'r ysgol bomio, a adeiladwyd yno gan lywodraeth Prydain ganol y 1930au, gan Saunders Lewis, Lewis Valentine a D. J. Williams yn 1936 (gweler Tân yn Llŷn).

Bu Penrhos yn blwyf sifil yn ogystal ond cafodd ei uno gyda Llannor pan ddiwygwyd llywodraeth leol yn Sir Gaernarfon yn 1934. Mae pentref Penrhos yn fychan iawn - dim ond yr eglwys ac ychydig o dai a geir yno. Mae'r pentref yn rhan o gymuned Llannor.

Llifa afon Penrhos trwy'r plwyf a heibio i'r pentref i aberu ym mharbwr Pwllheli.

Roedd y gwleidydd Llafur blaenllaw Goronwy Roberts (1913-1981) yn enedigol o Benrhos.