Llanaelhaearn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rhan o Lanaelhaearn gyda'r Eifl yn y cefndir
Hen fythynnod yn y pentref

Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig ar Benrhyn Llŷn yng Ngwynedd yw Llanaelhaearn, yn ardal Eifionydd.

Saif ar y briffordd A499 rhwng Caernarfon a Pwllheli, lle mae ffordd y B4417 yn fforchio o'r briffordd i gyfeiriad Nefyn. Daeth y pentref yn adnabyddus pan oedd Antur Aelhaearn yn yn ei anterth. Roedd hwn yn gynllun a anelai at adfywio economi'r pentref ac felly warchod ei ddiwylliant. Cynhelir eisteddfod flynyddol, yn awr yn festri Capel y Babell, sydd wedi ei addasu i fod yn ganolfan gymdeithasol. Mae nifer o enwgion yn gyn-enillwyr yma, yn cynnwys Bryn Terfel.

Mae nifer o hynafiaethau diddorol o gwmpas y pentref. Ar gopa dwyreiniol Yr Eifl uwchben y pentref mae Tre'r Ceiri, bryngaer o Oes yr Haearn a ystyrir yn un o'r bryngaerau mwyaf tarawiadol yn Nghymru. Yn Eglwys Sant Aelhaearn mae dwy garreg ac arysgrifau Lladin arnynt. Y mwyaf diddorol yw carreg sy'n dyddio o tua diwedd y 5ed ganrif, gyda'r arysgrif ALIORTUS ELMETIACO(S) / HIC IACET ("Aliortus, gŵr o Elmet, sy'n gorwedd yma"). Elmet ("Elfed" mewn Cymraeg Diweddar) yw'r hen deyrnas Frythonig yn ardal Leeds heddiw, felly mae'n ymddangos fod Aliortus wedi marw ymhell o gartref. Efallai ei fod ar bererindod i Ynys Enlli. Mae'r ail garreg yn rhoi enw, Melitus, ond dim manylion pellach.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanaelhaearn (pob oed) (1,117)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanaelhaearn) (816)
  
76.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanaelhaearn) (856)
  
76.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanaelhaearn) (195)
  
40.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Llyfryddiaeth[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
  • Lynch, Frances (1995) Gwynedd (A guide to ancient and historic Wales) (Llundain:HMSO) ISBN 0-11-701574-1