Abermaw
Cyfesurynnau: 52°43′19″N 4°03′18″W / 52.722°N 4.055°W
| Abermaw | |
| Saesneg: Barmouth | |
|
|
|
| Poblogaeth | 2,230 |
|---|---|
| Cyfeirnod grid yr AO | SH613156 |
| Prif ardal | Gwynedd |
| Sir seremonïol | Gwynedd |
| Gwlad | Cymru |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | ABERMAW |
| Rhanbarth cod post | LL42 |
| Cod deialu | 01341 |
| Yr Heddlu | Gogledd Cymru |
| Tân | Gogledd Cymru |
| Ambiwlans | Cymru |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Cymru |
| Senedd y DU | Dwyfor Meirionnydd |
| Cynulliad Cymru | Dwyfor Meirionnydd |
| Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Gwynedd | |
Tref arfordirol a chymuned yng Ngwynedd yw Abermaw (Y Bermo, Abermo neu Bermo yn lleol). Mae pont reilffordd fawr yn croesi'r afon yn ymyl y dref.
Tyfodd y dref o gwmpas y diwydiant adeiladu llongau ond erbyn heddiw tref glan môr, dwrsitaidd ydyw'n bennaf. Mae adeiladau hanesyddol y dref yn cynnwys y Tŷ Gwyn, sy'n dyddio o'r Oesoedd Canol ac yn gysylltiedig â Harri Tudur, a'r carchardy Tŷ Crwn, sy'n dyddio yn ôl i'r 18fed ganrif. Roedd y bardd William Wordsworth yn ymwelydd cyson ag Abermaw ac yn edmygu'r golygfeydd gwych o gwmpas. Ceir hefyd yma Ganolfan Bad Achub i Ymwelwyr sydd bellach yn arddangosfa. Erys yr harbwr bychan yn brysur, yn arbennig yn yr haf; mae Ras llongau hwylio'r Tri Chopa yn galw yno'n flynyddol.
Cynnwys |
Y bont reilffordd [golygu]
Ar un adeg roedd pont reilffordd Abermaw, sy'n cludo Rheilffordd Arfordir Cymru dros Afon Mawddach, yn derfynfa i linell y GWR, a hefyd i linell Rhiwabon-Abermaw, a oedd yn rhedeg trwy'r Bala a Dolgellau. Ym mhen deheuol y bont mae Llwybr Dyffryn Mawddach yn dechrau.
Enwogion [golygu]
- John Gwynoro Davies (1855 - 1935), gweinidog yn Abermaw 1887-1935, Rhyddfrydwr radicalaidd.
- John Griffith (Y Gohebydd) (1821 - 1877), un o newyddiadurwyr mwyaf adnabyddus ei oes.
- Owen Gwynne Jones (1867-1899), arloeswr dringo mynyddoedd.
- Robert Owen (Bardd y Môr) (1858-1885), bardd
- Bill Tilman, mynyddwr a morwr enwog fu'n byw yn y dref am flynyddoedd.
Cludiant [golygu]
Ffordd [golygu]
Mae'r briffordd A496 yn rhedeg trwy Abermaw.
Rheilffordd [golygu]
Mae gorsaf Abermaw ar Reilffordd Arfordir Cymru sy'n cysylltu'r dref ag Aberystwyth i'r de (trwy Tywyn ac Aberdyfi lle gellir newid i ddal trên i gyfeiriad Amwythig), a Pwllheli i'r gogledd (trwy Ddyffryn Ardudwy, Harlech a Phorthmadog).
Bysiau [golygu]
Mae gwasanaeth bws 2 Arriva (Dolgellau - Caernarfon / Bangor) yn rhedeg trwy Abermaw a cheir hefyd y gwasanaeth X94 rhwng y dref a Dolgellau.
Fferi [golygu]
Yn yr haf mae gwasanaeth llong fferi bach yn cysylltu Abermaw â Phwynt Penrhyn; oddi yno gellir dal un o drênau bach Rheilffordd Fairbourne (neu'r Friog) i gyfeiriad Tywyn.
Atyniadau yn y cylch [golygu]
- Llwybr Panorama - golygfeydd gwych dros yr aber
- Carn Gorllwyn - y bryn i'r dwyrain o'r dref; mae rhan ohono'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
- Llanaber - eglwys hynafol ar lan y môr.
- Carneddau Hengwm gen Llanaber - grŵp o ddwy Siambr gladdu Neolithig a chylch cerrig cynhanesyddol ar y rhosdir uwchben Llanaber.
Abermaw trwy luniau 1828 - 1978 [golygu]
Gwaith gwirfoddol wedi ei ymgymryd gan Hugh Griffith Roberts er budd "Abermaw: Cymdeithasau'n Gyntaf". Pobl y dref boed yn drigolion neu'n alltud sy'n sicrhau llwyddiant y gwaith [1].
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Abererch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abermaw · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Y Bala · Bangor · Beddgelert · Bethania · Bethel · Bethesda · Betws Garmon · Blaenau Ffestiniog · Boduan · Bontddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Caernarfon · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Cricieth · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolgellau · Dolbenmaen · Dyffryn Ardudwy · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Frongoch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Harlech · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywair · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Nefyn · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhyndeudraeth · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Penygroes · Pistyll · Pontllyfni · Porthmadog · Portmeirion · Prenteg · Pwllheli · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhostryfan · Rhyd · Rhyd-Ddu · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Talysarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tregarth · Tremadog · Tudweiliog · Tywyn · Waunfawr