John Griffith (Y Gohebydd)

Oddi ar Wicipedia
John Griffith
Ganwyd6 Rhagfyr 1821 Edit this on Wikidata
Abermaw Edit this on Wikidata
Bu farw13 Rhagfyr 1877 Edit this on Wikidata
Lerpwl Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethnewyddiadurwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
MamMaria Roberts Edit this on Wikidata

Newyddiadurwr Cymreig oedd John Griffith (16 Rhagfyr 182113 Rhagfyr 1877), sy'n adnabyddus wrth ei ffugenw "Y Gohebydd".

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Brodor o Abermaw, Meirionnydd oedd John Griffith. Ar ôl cychwyn ei yrfa fel groser, cynorthwyodd Hugh Owen yn y gwaith o sefydlu Ysgolion Frytanaidd. Dechreuodd gyfrannu erthyglau i'r newyddiadur misol Y Cronicl, a sefydlasid gan ei ewythr Samuel Roberts ("S.R." Llanbrynmair).[1]

Yn nes ymlaen ymunodd â staff Baner ac Amserau Cymru, newyddiadur arloesol Thomas Gee, a daeth yn ohebydd Llundain i'r papur. Daeth yn adnabyddus wrth y llysenw a fabwysiadwyd ganddo, sef "Y Gohebydd". Fel Thomas Gee, roedd yn Rhyddfrydwr brwd. Ymgyrchai o blaid cael addysg i bawb. Roedd yn un o sefydlwyr Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn 1873. Gwnaeth ei ran hefyd yn y gwaith o sefydlu Eisteddfod Genedlaethol Cymru.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Richard Griffiths, Y Gohebydd (1905). Bywgraffiad.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: