Tywyn
Cyfesurynnau: 52°34′59″N 4°05′24″W / 52.58294°N 4.08989°W
| Tywyn | |
Stryd Fawr Tywyn |
|
|
|
|
| Poblogaeth | 2,864 |
|---|---|
| Cyfeirnod grid yr AO | SH585004 |
| Prif ardal | Gwynedd |
| Sir seremonïol | Gwynedd |
| Gwlad | Cymru |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | TYWYN |
| Rhanbarth cod post | LL36 |
| Cod deialu | 01654 |
| Yr Heddlu | Gogledd Cymru |
| Tân | Gogledd Cymru |
| Ambiwlans | Cymru |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Cymru |
| Senedd y DU | Meirionnydd Nant Conwy |
| Cynulliad Cymru | Dwyfor Meirionnydd |
| Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Gwynedd | |
- Mae hon yn erthygl am y dref ym Meirionnydd. Am y pentref yn sir Conwy gweler Tywyn (Conwy). Gweler hefyd Tywyn y Capel a tywyn (tywod).
Tref fechan ar lan Bae Ceredigion ym Meirionnydd, Gwynedd yw Tywyn. Mae Caerdydd 137.7 km i ffwrdd o Tywyn ac mae Llundain yn 297.8 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 71 km i ffwrdd. Mae'r traeth a'r promenâd yn atyniadau twristaidd poblogaidd. I'r gogledd y mae aber Afon Dysynni, ac i'r gogledd-ddwyrain y mae tir amaethyddol bras Dyffryn Dysynni a phentref Bryn-crug. I'r dwyrain ceir bryniau Craig y Barcud a Chraig Fach-goch.
Cynnwys |
Yr enw [golygu]
Gelwir y dref weithiau wrth yr enw Tywyn Meirionnydd, rhag drysu rhwng lleoedd gwahanol ag enwau tebyg, yn arbennig y pentref o'r un enw yn sir Conwy (gw. uchod). Yn y cyfnod Fictoraidd a hyd at ganol ugeinfed ganrif defnyddid enw arall yn y Saesneg, sef Towyn-on-Sea. Hyd at oddeutu canol yr ugeinfed ganrif, cyfeirid yn achlysurol at y dref fel 'Y Tywyn', ond nid arferir y ffurf honno bellach. Yn Gymraeg, yr ynganiad arferol yw /ˈtəʊ.ɪn/, ond yn Saesneg y mae'r ynganiad /'taʊ.ɪn/ yn gyffredin. Ystyr y gair tywyn yw 'traeth, glân môr, twyn twyod', ac mae twyni tywod eang i'w cael i'r de o'r dref i gyfeiriad Aberdyfi.
Hanes [golygu]
Sefydlodd Cadfan Sant glas yn Nhywyn yn y 6ed ganrif. Yn ôl Llyfr Llandaf, hwylio i Dywyn o Armorica wnaeth ef a deuddeg arall. Yn ôl traddodiad Llydaw yw Armorica, er bod rhai yn cynnig mai o ysgol Gristnogol ar lan y môr ym Mhrydain y daeth, megis Llanilltyd Fawr. Yn ôl traddodiad ei glas yn Nhywyn oedd y cyntaf a sefydlwyd ganddo yng Nghymru. Adeiladwyd eglwys o bren yn gyntaf a chofnodir bod yr eglwys wedi ei llosgi ddwywaith gan y Llychlynwyr. Yn y 12fed ganrif adeiladwyd eglwys o gerrig yn y dull Normanaidd, sydd wedi goroesi yn rhan o adeilad presennol Eglwys Sant Cadfan.
Prif drysor yr eglwys hon yw Carreg Cadfan; arni mae'r arysgrif Gymraeg hynaf y gwyddys amdani. Fe'i hysgrifennwyd tua dechrau'r 9fed ganrif, os nad cynt.
Yn Oes y Tywysogion Tywyn oedd un o brif drefi cwmwd Ystumanner, cantref Meirionnydd.
Yn 1877, ceisiwyd adeiladu pier yn Nhywyn. Ni oroesodd y gwaith fwy nag ychydig fisoedd, a phrin yw'r olion a adawyd ganddo.[1] Mae'r stryd 'Pier Road' hyd heddiw yn cynnig awgrym o'i leoliad.
Yr Iaith Gymraeg [golygu]
Cymraeg oedd prif iaith Tywyn hyd at ganol yr ugeinfed ganrif. Yn ystod y 1860au, defnyddid 'Welsh Stick' (sef ffurf ar y Welsh Not) yn Ysgol Frutanaidd y dref (rhagflaenydd Ysgol Penybryn) er mwyn cosbi plant a ddaliwyd yn siarad Cymraeg.[2]
Cofnododd Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2001 fod 40.5% o boblogaeth Tywyn yn gallu'r Gymraeg. Yn 2010, nodwyd mewn adolygiad gan Estyn fod 11% o blant ysgol gynradd y dref yn dod o aelwydydd a oedd â'r Gymraeg yn brif iaith.[3]
Trigolion nodedig [golygu]
Mae cyswllt rhwng nifer o drigolion mwyaf nodedig y plwy ac Ynysymaengwyn, ystâd y bu i'w sgwïeiriaid ddominyddu'r dref o'r bedwaredd ganrif ar ddeg hyd yr ugeinfed.
Roedd 'Syr' Arthur ap Huw (a elwid weithiau yn Arthur Hughes) yn ŵyr i Hywel ap Siencyn ab Iorwerth o Ynysymaengwyn ac yn ficer Eglwys Cadfan yn Nhywyn rhwng 1555 a'i farwolaeth yn 1570. Roedd hefyd yn noddwr nodedig i'r beirdd.[4] Fe'i cofir am ei gyfieithiad Cymraeg o destun gwrth-ddiwygiadol George Marshall, A Compendious Treatise in Metre (1554).[5]
Roedd nai Arthur ap Huw, David neu Dafydd Johns (a elwid weithiau'n David Jones neu David ap John, bl. 1572-98) yn ffigwr arall amlwg yn y Dadeni Dysg yng Nghymru.[6] Roedd yn or-or-ŵyr i Hywel ap Siencyn, ac fe gopïodd lawysgrif bwysig o gywyddau (Llyfrgell Brydeinig Additional MS 14866) sydd yn cynnwys nifer o gerddi i deulu Ynysymaengwyn.
Mae ychwanegiadau diweddarach at y llawysgrif hon yn cynnwys nifer o gerddi o'r ddeunawfed ganrif, ac yn eu plith y mae rhai i'r teuluoedd Owen a Corbet o Ynysymaengwyn ac i'r Parchedig Edward Morgan.[7] Roedd Edward Morgan (m. 1749) yn frodor o Langelynnin, yn frawd i'r llenor John Morgan (Matchin), ac yn ficer Eglwys Cadfan o 1717; ef oedd un o berchnogion llawysgrif David Johns yn ystod rhan gyntaf y ddeunawfed ganrif.
Un o blwyf Tywyn oedd y Parchedig Griffith Hughes (1707–c.1758). Ef oedd awdur The Natural History of Barbados (1750), cyfrol sy'n cynnwys y disgrifiad cynharaf o'r grawnffrwyth. Roedd Evan Evans (Ieuan Fardd) (1731–88) yn gurad Eglwys Cadfan rhwng 1772 a 1777. Yn ystod ei gyfnod yn Nhywyn bu'n athro barddol ar David Richards (Dafydd Ionawr), y bardd o Lanyrafon ger Bryn-crug.
Yn 1826, cyhoeddodd Edward Jones o Dywyn Marwolaeth Abel, cyfieithiad o Der Tod Abels gan y bardd o'r Swistir, Solomon Gessner. Roedd John Ceiriog Hughes ('Ceiriog', 1832–1887) yn rheolwr gorsaf yn Nhywyn am gyfnod byr o 1870. Hefyd yn y flwyddyn honno, ar 4 Ebrill, bu farw'r offeiriad, yr hynafiaethydd, yr awdur a'r bardd Owen Wynne Jones (Glasynys) (1828-1870) yn Nhywyn.
Bu'r cerddor Joseph David Jones (1827–1870) yn ysgolfeistr yn Nhywyn am gyfnod, gan gwrdd â'i wraig yno. Yno hefyd y magwyd ei feibion rhwng 1870 a 1877, gan gynnwys Sir Henry Haydn Jones (1863-1950), a fu'n aelod seneddol ar Feirionnydd ac a dreuliodd bron y cyfan o'i oes yn byw yn y dref, a'r gweinidog nodedig gyda'r Annibynwyr yn Lloegr, John Daniel Jones (1865-1942).
Cyfrifiad 2011 [golygu]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[8][9][10]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Wilkinson, Jeremy. 1984. Tywyn Pier. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Feirionnydd, 9.4, tt. 457-71.
- ↑ Archifdy Meirionnydd, Archifau Gwynedd, Llyfr Log Ysgol Brydeinig Towyn, Sir Feirionnydd, 1863-76, Casglu'r Tlysau: Y wefan ar gyfer treftadaeth a diwylliant Cymreig.
- ↑ Williams, William Edwards. 2010. Adroddiad ar ansawdd addysg yn Ysgol Penybryn, Tywyn, Gwynedd, t. 1.
- ↑ Fychan, Cledwyn. 1979. Canu i wŷr eglwysig gorllewin Sir Ddinbych. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 28, p. 120.
- ↑ Bowen, Geraint. 1956. Arthur ap Huw. Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 9.3, t. 376.
- ↑ Roberts, Brynley F. 2004. ‘Johns , David (fl. 1572–1598)’. Oxford Dictionary of National Biography. Oxford: Oxford University Press, 2004 accessed 18 Feb 2012.
- ↑ Owen, Bob, 1962. Cipolwg ar Ynysymaengwyn. Cylchgrawn Cymdeithas Hanes Meirionnydd, 4.2, tt. 97-118.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Gweler hefyd [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Wilkinson, Jeremy. 1984. Tywyn Pier. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Feirionnydd, 9.4, tt. 457-71.
- ↑ Archifdy Meirionnydd, Archifau Gwynedd, Llyfr Log Ysgol Brydeinig Towyn, Sir Feirionnydd, 1863-76, Casglu'r Tlysau: Y wefan ar gyfer treftadaeth a diwylliant Cymreig.
- ↑ Williams, William Edwards. 2010. Adroddiad ar ansawdd addysg yn Ysgol Penybryn, Tywyn, Gwynedd, t. 1.
- ↑ Fychan, Cledwyn. 1979. Canu i wŷr eglwysig gorllewin Sir Ddinbych. Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 28, p. 120.
- ↑ Bowen, Geraint. 1956. Arthur ap Huw. Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 9.3, t. 376.
- ↑ Roberts, Brynley F. 2004. ‘Johns , David (fl. 1572–1598)’. Oxford Dictionary of National Biography. Oxford: Oxford University Press, 2004 accessed 18 Feb 2012.
- ↑ Owen, Bob, 1962. Cipolwg ar Ynysymaengwyn. Cylchgrawn Cymdeithas Hanes Meirionnydd, 4.2, tt. 97-118.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Abererch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abermaw · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Y Bala · Bangor · Beddgelert · Bethania · Bethel · Bethesda · Betws Garmon · Blaenau Ffestiniog · Boduan · Bontddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Caernarfon · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Cricieth · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolgellau · Dolbenmaen · Dyffryn Ardudwy · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Frongoch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Harlech · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywair · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Nefyn · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhyndeudraeth · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Penygroes · Pistyll · Pontllyfni · Porthmadog · Portmeirion · Prenteg · Pwllheli · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhostryfan · Rhyd · Rhyd-Ddu · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Talysarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tregarth · Tremadog · Tudweiliog · Tywyn · Waunfawr