Llandderfel
Cyfesurynnau: 52°55′19″N 3°30′58″W / 52.922°N 3.516°W
Pentref gwledig a chymuned yn nwyrain Gwynedd yw Llandderfel, tua 3 milltir i'r dwyrain o'r Bala. Mae plwyf Llandderfel yn un o bump plwyf Penllyn. Mae'n gorwedd yn rhan uchaf Dyffryn Edeirnion yn agos i'r Sarnau a Chefnddwysarn, wrth odre'r Berwyn.
Cynnwys |
Hanes yr eglwys [golygu]
Mae eglwys Llandderfel yn hen ac wedi'i chysegru i Sant Derfel Gadarn (fl. 6ed ganrif efallai). Ceir yma ffenest liw nodedig iawn gan James Powell a'i fab, sy'n dyddion ôl i 1890.[1] Yn y porth gwelir ceffyl pren derw hynafol. Ar un adeg roedd y sant yn marchogaeth y ceffyl ond yn ystod y Diwygiad Protestannaidd cymerwyd delw'r sant a'i ffon a'u cludo i Lundain lle cawsent eu defnyddio i losgi offeiriad Catholig ar y Bryngwyn ar orchymyn Thomas Cromwell. Yn rhyfedd iawn roedd hyn yn cyflawni hen broffwydoliaeth y byddai'r ddelw ryw ddydd yn llosgi coedwig gyfan: enw'r offeiriad druan oedd 'Mr Forest'.
Roedd yn arfer gan y plwyfolion orymdeithio gyda'r sant ar ei geffyl pren i fyny i ben allt leol a elwir Bryn y Saint. Credid fod y ddelw'n gallu iachau'r claf. Ceir Ffynnon Dderfel ger yr eglwys.
Cyfrifiad 2011 [golygu]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]
Enwogion [golygu]
- Huw Cae Llwyd (fl. 1431-1504), bardd
- Edward Jones (Bardd y Brenin) (1752-1824), telynor
- David Roberts (Dewi Havhesp) (1831-1884), bardd ac un o englynwyr gorau'r 19eg ganrif
- Huw Derfel (1816-1890), awdur y llawlyfr mynydd cyntaf yn y Gymraeg
- R. J. Derfel (1824-1905), bardd gwladgar a sosialydd cynnar
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Church of St Derfel, Llandderfel, Gwynedd, formerly in Merioneth. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 5 Mai 2012.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Abererch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abermaw · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Y Bala · Bangor · Beddgelert · Bethania · Bethel · Bethesda · Betws Garmon · Blaenau Ffestiniog · Boduan · Bontddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Caernarfon · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Cricieth · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolgellau · Dolbenmaen · Dyffryn Ardudwy · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Frongoch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Harlech · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywair · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Nefyn · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhyndeudraeth · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Penygroes · Pistyll · Pontllyfni · Porthmadog · Portmeirion · Prenteg · Pwllheli · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhostryfan · Rhyd · Rhyd-Ddu · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Talysarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tregarth · Tremadog · Tudweiliog · Tywyn · Waunfawr